Newyddion S4C

‘Cyfle cyfartal’: Creu dihangfa i blant ag anghenion penodol yn yr Eisteddfod

07/08/2024

‘Cyfle cyfartal’: Creu dihangfa i blant ag anghenion penodol yn yr Eisteddfod

“Ma’ fe’n bwysig bod plant ar draws Cymru yn cael cyfle cyfartal.”

Dyma'r neges gan drefnydd ardal newydd i deuluoedd â phlant anabl a phlant ag anghenion penodol yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Yn ôl Ross Dingle, gweithiwr chwarae a rheolwr y Pentref Plant, mae'r Ynys Glyd yn lle i'r plant gymryd saib a magu hyder trwy chwarae.

“Fi’n gallu gweld y plant sy’ ddim yn fodlon dod mewn ac ymuno mewn grwpiau, neu ddim yn gallu ymuno mewn grwpiau a pharhau gyda pherthynas trwy chwarae gan fod dim digon o hyder ganddyn nhw, neu mae anabledd gyda nhw,” meddai.

“Felly ro'n i eisiau creu ardal gynhwysol lle gallai teuluoedd ddod ag ymlacio a gwybod bod ardal dawel lle mae llai o niferoedd a lle i bawb.”

Mae’r Ynys Glyd yn cefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wella cyfleoedd chwarae i blant anabl a phlant ag anghenion penodol yng Nghymru.

Image
Ross Dingle
Ross Dingle

'Golygu gymaint'

Dyma’r tro cyntaf i ardal o’r fath gael ei chreu yn yr Eisteddfod Genedlaethol. 

Er bod yr ŵyl wedi cynnal gweithgareddau ar gyfer plant anabl a phlant ag anghenion penodol yn y gorffennol, roedd Ross yn teimlo bod lle i wella. 

Mae gan Gwennan Evans o Gaerdydd blentyn sydd ag anghenion, ac mae hi'n ddiolchgar iawn o gael ardal fel Yr Ynys Glyd ar faes y Brifwyl eleni. 

"Ma’r ffaith bod ‘na adnodd fel Yr Ynys Glyd ar y maes, ma’ fe’n ffantastig achos ma’n golygu bod plant sydd ag anabledde fel ein plentyn ni yn gallu dod i’r Maes ac yn gallu mwynhau. Ond ma’n golygu gymaint i’r teuluoedd hefyd, ry’n ni fel rhieni yn gallu dod, ma’ brodyr a chwiorydd yn gallu dod i fwynhau," meddai. 

"Dim pob plentyn sydd ddigon ffodus i fynd i ysgol sydd ag uned neu gyda phlant sydd ag anghenion, felly ma’n grêt o ran codi ymwybyddiaeth hefyd. Ma’n dda gweld bod plant yn gallu cyd-chwarae efo’i gilydd a ma’ ‘na jyst gofod bendigedig yma i blant dreulio amser.

"Ma’r maes yma ym Mhontypridd, ma' e'n wych i blant sydd ag anghenion. I ni fel teulu, ni yn mynd i’r 'Steddfod bob blwyddyn a dyw pob maes ddim fel hyn. Ma’r pwll nofio yn adnodd ffantastig, ma' lot o blant sydd ag anghenion yn hoffi bod mewn dŵr, ma’n brofiad synhwyraidd arbennig iddyn nhw."

Image
Gwennan Evans
Gwennan Evans

'Cymryd camau ymlaen'

Mae'r profiad o fod yn rhiant i blentyn sydd ag anghenion dysgu yn gallu bod yn un "unig", yn ôl Gwennan. 

"Ma’ lot o’r profiade sydd ar gael i blant heb anghenion, ‘dyn nhw ddim ar gael i’ch plentyn chi felly mae e'n brofiad unig," meddai. 

"Ma' wir yn meddwl lot bod rhywun wedi meddwl amdanom ni fel cymuned ac wedi cynnig gofod i ni a meddwl beth allwn ni wneud i wneud bywyd yn haws a gallu bod yn rhan o’r bwrlwm achos dyna’r peth gyda’r Steddfod, ma' e’n eiddo i bawb ac ma' gallu cynnwys pawb yn ffantastig."

Mae Gwennan yn ddiolchgar iawn i'r staff sydd yn y Pentref Plant am fod mor ddealladwy.

"Pan ry’ch chi’n dod i’r Pentref Plant eleni, chi’n gallu gweld bod nhw wedi meddwl am blant sydd ag anghenion. Ma’r staff yma yn ymwybodol o blant sydd ag anghenion. Ni ‘di cael profiade hyfryd yma, ma’ angen codi ymwybyddiaeth, ma’ angen hyfforddiant ar bobl," meddai. 

"Mae’n wych gweld y ‘Steddfod yn cymryd camau ymlaen o ran hynny."

Image
Yr Ynys Glyd
Yr Ynys Glyd yn y Pentref Plant

Ychwanegodd Ross Dingle: "Os ma’r plant yn hapus, ma’r teuluoedd yn hapus a wedyn ma’ pawb yn hapus. Ma’n teimlo fel cymuned mawr yn y Pentref Plant a ni’n trio cael rhywbeth i bawb a hwnna yw’r rheswm bo’ ni wedi ychwanegu’r Ynys Glyd flwyddyn ‘ma so ma’ fe’n lot mwy inclusive

"Ma’ fe’n bwysig iawn i ni gallu neud hwn a wedyn addasu eto i wella so ma’ fe’n broses, ‘dan ni ddim yn mynd i fod yn berffaith ond y ffaith bo’ ni’n reflectio ar beth sy’n gweithio, beth sydd ddim yn gweithio a ni’n addasu i neud e’n fwy inclusive bob blwyddyn, ma’ hwnna'n bwysig iawn.”  

Gall y teuluoedd sy'n dod i'r Ynys Glyd ddisgwyl pabell gydag ardal dawel a theganau sensori yn ogystal ag ardal i chwarae yn yr awyr agored.

Er nad oes modd gadael y plant yn yr ardal, bydd aelodau o staff sydd â phrofiad o weithio gyda phlant ag anghenion penodol ar gael i'w cynorthwyo.

Bydd modd i deuluoedd â phlant anabl a phlant ag anghenion penodol fynd i’r Ynys Glyd yn y Pentref Plant bob dydd rhwng 11.00 a 17.00.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.