Newyddion S4C

Carchar i ddyn o Lannerch-y-medd am ddal ffrind yn wystl

06/08/2024
Dewi Hughes

Mae llys wedi clywed fod dyn o Sir Fôn oedd yn gwario £100 y dydd ar gocên wedi dal ffrind yn “wystl” gyda chyllell am deirawr mewn fan, gan uwchlwytho rhan o’r digwyddiad ar wefan Snapchat.

Plediodd Dewi Hughes 34 oed o Lannerch-y-medd yn euog i'r cyhuddiadau yn ei erbyn a chafodd ei garcharu am 5 mlynedd.  

Clywodd Llys y Goron yr Wyddgrug fod Hughes yn 'wallgof' pan sylweddolodd nad oedd petrol bellach yn ei fan, gan orfodi'r dioddefwr, Aaron Jones i redeg oddi wrtho ar draws caeau a chuddio am hyd at awr.   

Dechreuodd y dioddefaint pan ofynnodd Hughes i Mr Jones, a oedd wedi "achwyn arno", gan ddal cyllell yn erbyn ei wddf, ac yna fe orfododd Hughes, Mr Jones i yrru'n beryglus drwy oleuadau coch.

Ar ôl iddo ddianc, fe lwyddodd Mr Jones i ddweud wrth ddynes i ffonio'r heddlu gan nodi ei fod wedi cael ei gadw'n wystl gan Hughes. 

Cafodd Hughes ei arestio ar ôl i heddwas oedd â gwn taser ddilyn ei fan oedd wedi ei ddwyn ym mis Ionawr eleni. 

Fe glywodd y llys fod olion DNA Mr Jones wedi eu darganfod ar lafn cyllell y cafwyd hyd iddi.

Dywedodd bargyfreithiwr yr amddiffyniad, Richard Edwards: “Roedd y diffynnydd yn ddibynnol iawn ar gocên, gan wario hyd at £100 y dydd ar ei arferiad. Roedd hyn yn amlwg wedi effeithio arno.”  

'Edifeiriol'

Fe glywodd y llys hefyd fod y diffynnydd yn dioddef o sgitsoffrenia. 

“Mae’r diffynnydd bellach mewn cyflwr llawer gwell. Mae’n edifeiriol,” ychwanegodd Mr Edwards.     

Fe gyfaddefodd Hughes i gyhuddiadau o garchariad ffug, ymddygiad bygythiol â llafn, cymryd cerbydau drwy ormes a gyrru'n beryglus tra roedd wedi ei wahardd, yn ogystal â chyhuddiadau o fod â'r cyffur cocên yn ei feddiant.

Fe wnaeth y Barnwr Nicola Saffman garcharu Hughes am bum mlynedd gyda gwaharddiad gyrru o ddwy flynedd a phrawf estynedig wedi iddo gael ei ryddhau o'r carchar.

Yn ystod yr un achos, fe blediodd Hughes yn euog hefyd i dagu ei bartner yn fwriadol yn 2022 a dau ymosodiad arni mewn digwyddiadau blaenorol.    

Dywedodd y Barnwr Saffman fod gan Hughes elfen o gyfrifoldeb, fel rhywun ag anawsterau iechyd meddwl, ac y dylai lynu at ei driniaeth a pheidio â chymryd cocên.   

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.