Newyddion S4C

'Proses wedi dechrau' yn achos aelodaeth Huw Edwards yn yr Orsedd

06/08/2024
Huw Edwards

Mae Gorsedd Cymru wedi dweud fod “proses wedi dechrau” wrth benderfynu ar derfynu aelodaeth Huw Edwards.

Fe wnaeth Bwrdd Gorsedd Cymru gyfarfod ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ddydd Mawrth er mwyn ystyried a ddylid diarddel y cyn gyflwynydd.

“Mae proses wedi cychwyn ac nid yw’n briodol i Orsedd Cymru wneud unrhyw sylw pellach tan i’r broses ddod i derfyn,” meddai Cofiadur yr Orsedd, Christine James, mewn datganiad.

Cafodd Huw Edwards ei urddo i'r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion, yn Nhregaron yn 2022.

Yn Llys Ynadon Westminster ddydd Mercher diwethaf, cyfaddefodd iddo dderbyn delweddau anweddus o blant.

Roedd Huw Edwards wedi ei gyhuddo o gael chwe delwedd categori A, 12 delwedd categori B a 19 delwedd categori C ar WhatsApp ac fe blediodd yn euog i'r holl gyhuddiadau. 

Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth ac fe fydd yn cael ei ddedfrydu yn Llys Ynadon Westminster ar 16 Medi.

Dywedodd Christine James, Cofiadur yr Orsedd, wrth y BBC yr wythnos diwethaf nad oes gan y sefydliad "drefn neu beirianwaith benodol i ddiarddel aelodau”. 

Mae Prifysgolion Bangor a Chaerdydd wedi dweud eu bod nhw’n adolygu'r Gymrodoriaeth Er Anrhydedd a gafodd ei chyflwyno i Huw Edwards.

Ac mae murlun o Huw Edwards wedi ei ddileu yn Llangennech gan yr artist a’i greodd.

Mae Castell Caerdydd hefyd wedi tynnu plac oedd yn cynnwys enw'r cyn ddarlledwr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.