Newyddion S4C

Achub tair dafad ar ôl mynd yn sownd mewn twll am ddiwrnodau

06/08/2024
Achub defaid o dwll

Cafodd tair o ddefaid eu hachub ar ôl mynd yn sownd mewn twll dan y ddaear nos Sul.

Roedd criw Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi cael eu galw i ddigwyddiad yn Llanymddyfri am 17:29.

Ar ôl cyrraedd fe wnaethon nhw ddarganfod tair dafad yn sownd mewn cylfat-pibell neu dwll sydd yn cael ei ddefnyddio er mwyn i ddŵr symud rhwng heolydd ac isadeiledd eraill.

Y gred yw bod y defaid wedi bod yn sownd yn y twll am hyd at ddau neu dri diwrnod.

Roedd y cylfat yn ddwy droedfedd sgwâr ar ei bwynt mwyaf cul.

Image
Achub defaid yn Llanymddyfri
Llun: Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru

Gyda chymorth ffarmwr, cafodd bolion, rhaff a strop anifail, sydd yn debyg i harnais eu defnyddio er mwyn symud y defaid yn ddiogel.

Fe wnaeth y criw tân adael y lleoliad am 20:38 ar ôl tair awr o weithio i sicrhau bod y defaid yn ddiogel.

Prif lun: Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.