Newyddion S4C

Beth sydd ar gael tu allan i faes yr Eisteddfod ym Mhontypridd?

Ponytpridd

Parc Ynys Angharad yw cartref yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Ond os ydych chi ffansi mentro o'r maes beth sydd i weld ym Mhontypridd ei hun? 

Mae yna sawl peth i’ch diddanu, o'r llefydd da i fwyta i lefydd i fynd am dro. Dyma awgrymiadau Emily-Haf James sydd wedi ei magu yn yr ardal.  

Bwyd amrywiol a blasus

Oes gennych chwant am ychydig o fwyd? Mae yna amrywiaeth o wahanol lefydd i fwyta yn y dref, o fusnesau bach i stondinau yn y farchnad. Ar Mill Street, mae caffi Zucco’s yn cynnig pitsa a choffi ffres, neu os oes awydd bwyd Gogledd Tseiniaidd neu Goreaidd arnoch, Janet’s yw’r lle i chi. 

Os oes gennych chi ddant melys, mae sawl opsiwn ym Mhontypridd. Mae’r caffi Prince’s yn cynnig llwyth o gacennau a brechdanau. Fe agorodd y caffi ei ddrysau am y tro cyntaf yn 1948. Hefyd, mae yna ddewis eang yn y farchnad, fel siop sy’n gwerthu pice ar y maen, siop goffi, a bwytai amrywiol. 

Hanes y dref 

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn hanes, mae yna sawl peth i’w weld ym Mhontypridd. Mae'r Hen Bont yng nghanol y dref a gafodd ei chodi yn 1756. Yn ogystal mae'r Maen Chwyf a gafodd ei greu yn 1849 gan Evan Davies o weddillion clogfaen rhewlif Oes yr Iâ. Fe wnaeth y Maen Chwyf ffurfio man canolog yr Orsedd yn 1814. 

Mae’r Tai Crwn wedi bod yno ers dros 150 o flynyddoedd, sydd yn nodi etifeddiaeth Dr William Price. 

Image
Tai Crwn Pontypridd
Tai Crwn Pontypridd. Llun: Alan Jenkins

Yn 1884, fe wnaeth e losgi corff ei fab bach, oherwydd yn ôl ei gredoau neo-dderwyddol, byddai claddu'r corff yn llygru'r ddaear.

Fe wnaeth e ddadlau’n llwyddiannus nad oedd y gyfraith yn gwahardd llosgi cyrff, ac fe wnaeth hynny arwain at greu Deddf Amlosgi 1902.

Mae modd gweld ei gerflun yn Llantrisant, tua chwarter awr o Bontypridd, lle bu’n byw o'r flwyddyn 1866. 

Adloniant  

Heblaw am yr holl bethau sydd yn digwydd ar y maes, mae yna leoliadau yn y dref sydd yn cynnig digwyddiadau ar wahân.

Mae Clwb y Bont, bar a chlwb cymunedol sydd yn hybu’r iaith Gymraeg, yn dathlu ei ben-blwydd yn 40 brynhawn dydd Iau.

Hefyd, mae yna sawl digwyddiad a pherfformiad yn digwydd yn y clwb yn ystod yr wythnos.

Mae Amgueddfa Pontypridd, ger yr Hen Bont, yn cynnig arddangosfa newydd tan 9 o Fedi eleni sy’n edrych ar Bontypridd a’r Eisteddfod Genedlaethol, ac mae’r mynediad yn rhad ac am ddim. 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.