Cipolwg ar benawdau'r bore
Bore da gan dîm Newyddion S4C.
Dyma ein prif benawdau ar fore dydd Mercher, 7 Gorffennaf.
Prif Weithredwr S4C i adael y sianel i redeg Estyn
Bydd pennaeth S4C yn gadael ei rôl fel Prif Weithredwr y sianel i ymuno ag Estyn, yn ôl adroddiad yn y Western Mail. Bydd Owen Evans yn ymuno â’r corff fel Prif Arolygwr yr archwilwyr addysg, medd y papur newydd. Ymunodd Mr Evans â S4C ym mis Hydref 2017, a chyn hynny roedd yn Ddirprwy Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru, yn gyfrifol am Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus.
Rhybudd y gallai'r DU weld 2m o achosion Covid-19 dros yr haf
Gallai 2m o bobl gael eu heintio gyda Covid-19 dros yr haf a 10m wynebu cyfnod o hunanynysu, yn ôl dadansoddiad gan The Guardian. Daw'r ffigyrau wrth i Weinidog Iechyd y DU, Sajid Javid, ddweud eu bod ar fin troedio "tir dieithr" wrth gael gwared ar reolau Covid-19 yn Lloegr ar 19 Gorffennaf.
Lloegr v Denmarc: A fydd pêl-droed yn dod ‘adref’?
Fe fydd Lloegr yn herio Denmarc y rowndiau cyn-derfynol ym mhencampwriaeth Euro 2020 yn ddiweddarach ddydd Mercher. Ond a fydd rhai Cymry ymhlith y miliynau fydd yn cefnogi Lloegr? Mae'r cwestiwn wedi hollti barn rhai cefnogwyr.
Galw am gynllun i ‘drawsnewid isadeiledd trafnidiaeth yng Nghymru’
Fe fydd trafnidiaeth yng Nghymru yn ôl ar yr agenda unwaith eto ddydd Mercher wrth i’r Ceidwadwyr Cymreig gynnig dadl yn y Senedd ar y mater. Mae’r blaid yn honni i lywodraethau Llafur olynol fethu i fynd i’r afael â thagfeydd a llygredd aer. Dywed Llywodraeth Cymru eu bod wedi "ymrwymo i greu seilwaith trafnidiaeth cynaliadwy yng Nghymru."
Miloedd yn protestio ar ôl i ddyn hoyw gael ei ladd yn Sbaen
Mae miloedd o bobl wedi protestio yn galw am gyfiawnder yn Sbaen ar ôl i ddyn hoyw gael ei guro i farwolaeth. Mae'r heddlu yn credu i'r digwyddiad fod yn ymosodiad homoffobig.