Miloedd yn protestio ar ôl i ddyn hoyw gael ei ladd yn Sbaen
Mae miloedd o bobl wedi protestio yn galw am gyfiawnder yn Sbaen ar ôl i ddyn hoyw gael ei guro i farwolaeth.
Mae'r heddlu yn credu i'r digwyddiad fod yn ymosodiad homoffobig.
Gwnaeth Samuel Luiz, 24, ddioddef ymosodiad ar noson allan gyda ffrindiau yn ninas A Coruña yn oriau mân y bore dydd Sadwrn.
Mae adroddiadau yn dweud y gwnaeth ffrae ddechrau tu allan i glwb nos yn y ddinas. Bu farw Mr Luiz yn ddiweddarach yn yr ysbyty.
Mae ei farwolaeth wedi ennyn dicter ledled y wlad, gyda heddlu yn Catalwnia yn dweud eu bod yn ymchwilio i ymosodiad arall a allai fod wedi cael ei ysgogi gan homoffobia, meddai The Independent.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Fernando Losada Rodríguez