Rhybudd y gallai'r DU weld 2m o achosion Covid-19 dros yr haf
Gallai 2m o bobl gael eu heintio gyda Covid-19 dros yr haf a 10m wynebu cyfnod o hunanynysu, yn ôl dadansoddiad gan The Guardian.
Daw'r ffigyrau wrth i Weinidog Iechyd y DU, Sajid Javid, ddweud eu bod ar fin troedio "tir dieithr" wrth gael gwared ar reolau Covid-19 yn Lloegr ar 19 Gorffennaf.
Mae oddeutu 29,000 o achosion newydd o Covid-19 yn cael eu cadarnhau bob dydd yn y DU ar hyn o bryd.
Ond, mae'r gweinidog iechyd wedi dweud y gallai'r ffigwr godi i 50,000 erbyn 19 Gorffennaf, ac yna i 100,000 yn hwyrach dros yr haf.
Mae Mr Javid eisoes wedi cyhoeddi na fydd rhaid i bobl sydd wedi eu brechu yn llawn yn erbyn Covid-19 yn Lloegr wynebu cyfnod o hunanynysu ar ôl dod i gyswllt gyda rhywun sydd wedi eu heintio o 16 Awst.
Nid oes cynlluniau o'r fath wedi eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru. Bydd adolygiad nesaf y llywodraeth o gyfyngiadau Covid-19 yn cael ei gynnal ar 15 Gorffennaf.
Darllenwch y stori'n llawn yma.