Lloegr v Denmarc: A fydd pêl-droed yn dod ‘adref’?
Lloegr v Denmarc: A fydd pêl-droed yn dod ‘adref’?
Fe fydd Lloegr yn herio Denmarc yn rowndiau cyn-derfynol ym mhencampwriaeth Euro 2020 yn ddiweddarach ddydd Mercher.
Ond a fydd rhai Cymry ymhlith y miliynau fydd yn cefnogi Lloegr?
Mae John Morris, sy’n cefnogi Lloegr, o’r farn y dylai cefnogwyr Cymru ddangos cefnogaeth i Loegr ddydd Mercher.
Dywedodd wrth raglen Newyddion S4C: “Mae’n bwysig bod nhw’n cefnogi Lloegr oherwydd ail tîm nhw ‘dio a dwi wedi clywed boys o gwmpas y stryd ‘ma, ‘ma nhw’n gwbod sut i ganu ‘Swing Low, Sweet Chariot’.
Ond, mae eraill yn gweld y syniad o gefnogi Lloegr fel un amhosib i’w ddeall.
Dywedodd Tommie Collins, a fydd yn cefnogi Denmarc nos Fercher: “Iawn i gefnogi Chelsea, tîm o Loegr. I fod yn onast, fedrai cefnogi Boca Juniors os dwi isho ond cefnogi Lloegr…? Dim gobaith”.
Mae’r drafodaeth wedi bod yn un danllyd ers i Gymru golli ei lle yn y bencampwriaeth ar ôl dioddef crasfa o 4-0 yn erbyn Denmarc yn rownd yr 16 olaf.
Ceisiodd un awdures resymu gyda’r Cymry mewn erthygl yr wythnos hon.
Dywedodd Laura Kemp wrth Newyddion S4C: “Wnes i awgrymu y dylai pobl gefnogi’r tîm Lloegr hwn achos dwi’n meddwl eu bod nhw’n wahanol i’r Lloegr mae pobl yn ei gasáu a dwi’n deall yn llwyr y gystadleuaeth ond nid y fersiwn honno o Loegr mae’r tîm Lloegr hwn yn ei gynrychioli”.
Ond, mae cyn-ymosodwr Cymru’n ystyried ‘nol ei grys Denmarc o’i lofft ar gyfer y gêm fawr.
Dywedodd Iwan Roberts wrth raglen Newyddion S4C: “Dio’m bwys gennai, dwi ‘di cael llond bol ar glŵad am ’66 a ma’n ffrindia' fi gyd yn gwbod ‘na nos ‘fory, pan fydd y gêm fawr…ma’ gennai grys Denmarc fyny staer.
“Wrach a’i fyny i’r lofft i gael y crys allan i wisgo fo nos ‘fory”.
Felly a fydd pêl-droed yn dod ‘adref’? Dyna’r cwestiwn mawr ar wefusau miliynau yn Lloegr, ac efallai ar wefusau rhai'r ochr yma i Glawdd Offa hefyd.