Newyddion S4C

Galw am gynllun i ‘drawsnewid isadeiledd trafnidiaeth yng Nghymru’

07/07/2021
Trafnidiaeth

Fe fydd trafnidiaeth yng Nghymru yn ôl ar yr agenda unwaith eto ddydd Mercher wrth i’r Ceidwadwyr Cymreig gynnig dadl yn y Senedd ar y mater.

Mae’r blaid yn honni i lywodraethau Llafur olynol fethu i fynd i’r afael â thagfeydd a llygredd aer.

Mae trafnidiaeth yn bwnc llosg ar hyn o bryd wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi bythefnos yn ôl y byddai’r holl brosiectau adeiladu ffyrdd sydd heb eu dechrau eisoes yn cael eu hoedi er mwyn cynnal adolygiad.

Ar y pryd, fe ddywedodd y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd, Lee Waters, fod angen "torri allyriadau carbon yn sylweddol".

Mae cynnig y Ceidwadwyr yn galw ar weinidogion y Llywodraeth i adeiladu ffordd liniaru’r M4, uwchraddio’r A55 a’r A470 a throi’r A40 i Abergwaun yn ffordd ddeuol.

Mae’r galwadau eraill yn cynnwys cael gwared ar argymhellion i alluogi cyflwyno prisiau ffordd yng Nghymru, gwella mynediad i isadeiledd gwefru ar gyfer ceir electrig, a gweithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus yn opsiwn ar gyfer pobl ymhob rhan o’r wlad.

Dywedodd y Gweinidog Trafnidiaeth Cysgodol, Natasha Asghar, cyn y ddadl: “Mae angen cynllun arnom a fydd yn trawsnewid ein hisadeiledd i sicrhau bod nwyddau a phobl yn gallu symud i Gymru’n gyflymach, rhatach, a glanach – nid polisïau a fydd yn rhoi braw i fusnesau a dal economi Cymru yn ôl”.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydyn ni wedi ymrwymo i greu seilwaith trafnidiaeth cynaliadwy yng Nghymru sy’n darparu cysylltedd rhagorol ym mhob rhan o’r wlad ac yn cyflawni ein nodau newid yn yr hinsawdd.”

Mae disgwyl i Darren Millar, yr Aelod dros Orllewin Clwyd gynnig y ddadl, gyda 60 munud wedi eu neilltuo ar ei chyfer.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.