Newyddion S4C

Prif Weithredwr S4C i adael y sianel i redeg Estyn

Wales Online 07/07/2021
Owen Evans

Bydd pennaeth S4C yn gadael ei rôl fel Prif Weithredwr y sianel i ymuno ag Estyn, yn ôl adroddiad yn y Western Mail.

Bydd Owen Evans yn ymuno â’r corff fel Prif Arolygwr yr archwilwyr addysg, medd y papur newydd.

Ymunodd Mr Evans â S4C ym mis Hydref 2017, a chyn hynny roedd yn Ddirprwy Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru, yn gyfrifol am Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus.

Fe fydd ei benodiad gydag Estyn angen sel bendith gan y Frenhines, cyn ei fod yn swyddogol.

Mae ochr ddigidol y sianel wedi cael ei datblygu yn ystod cyfnod Mr Evans gyda’r sianel, gydag S4C yn datgan bod gwasanaeth ar alw S4C Clic wedi cyrraedd 100,000 o danysgrifwyr o fewn chwe mis ym mis Chwefror 2020.

Mae’r sianel yn aros i glywed gan yr Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon o fewn Llywodraeth y DU am eu setliad ariannu am y tymor nesaf. 

O fis Ebrill 2022, bydd y cyfan o arian cyhoeddus S4C yn dod o ffi’r drwydded. 

Nid yw hi’n glir eto os y bydd newid i setliad ariannu’r sianel.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.