Lansio ymgyrch £100,000 i greu cerflun i Iolo Morganwg 200 mlynedd ers ei farwolaeth
Mae ymgyrch wedi ei lansio i godi tua £100,000 i greu cofeb i Iolo Morganwg i nodi 200 mlynedd ers ei farwolaeth.
Mae’n bosibl mai Gerddi’r Orsedd o flaen Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd fydd lleoliad y gofeb i gofio sefydlwr Gorsedd y Beirdd.
Bwriad Gorsedd Cymru yw dadorchuddio’r gofeb ym mis Rhagfyr 2026, 200 mlynedd ar ol ei farwolaeth.
Maen nhw’n amcangyfrif mai tua £100,000 fydd cost y gofeb, ac mae'r ymgyrch wedi ei chefnogi gan yr Eisteddfod a Chyngor Dinas Caerdydd.
Meddai’r cyn-Archdderwydd Myrddin ap Dafydd, “Yn ystod oes Iolo Morganwg ’doedd gan Gymru yr un sefydliad.
“Ysbrydoliaeth Iolo oedd gweld Cymru gyda’i llyfrgelloedd, ei phrifysgolion, ei hamgueddfeydd, ei sefydliadau diwylliannol, gyda llais y werin i’w glywed yn llywodraethu gwlad.
“Mae’n allweddol ein bod yn cofio cyfraniad y gŵr arbennig hwn, a fu’n fardd rhyddid ac yn ymgyrchydd yn erbyn caethwasiaeth, rhyfeloedd a thlodi.”
Eglurodd Myrddin ap Dafydd fod yr ymgyrch i sicrhau cofeb wedi’i hawgrymu gan yr ysgolhaig, Geraint H. Jenkins, un sydd wedi ymchwilio’n drylwyr i fywyd Iolo Morganwg.
“Nododd fod plac wedi’i osod wrth siop Iolo Morganwg yn y Bont-faen ar ganmlwyddiant ei farwolaeth yn 1926 ond nad oes unrhyw gofeb ffurfiol iddo,” meddai.
“Hon fydd y gofeb sylweddol gyntaf i lenor Cymraeg yn y brifddinas.”
Hanes Iolo Morganwg
Yn enedigol o blwyf Llancarfan ym Mro Morgannwg, Saesneg oedd iaith aelwyd Edward Williams ond datblygodd ddiddordeb yn iaith, llenyddiaeth a hanes Cymru.
Ni chafodd unrhyw addysg swyddogol, ac mae’n debyg iddo ddysgu darllen wrth wylio ei dad yn cerfio cerrig beddi. Dilynodd ei dad a daeth yn saer maen.
Ymddiddorai yn y traddodiad barddol Cymreig a dechreuodd ysgrifennu ei gerddi ei hun gan ddewis yr enw Iolo Morganwg fel ei enw barddol.
Dechreuodd gynhyrchu llawysgrifau a brofai bod traddodiad derwyddon Cymru a’r gwledydd Celtaidd eraill wedi goroesi’r Goncwest Normanaidd a hyd yn oed y Brenin Edward I, ond yn Sir Forgannwg yn unig.
Yn anffodus nid oedd gan y dogfennau hyn unrhyw sail mewn ffaith hanesyddol; daeth y cyfan o ddychymyg lliwgar Iolo.
Treuliodd y cyfnod rhwng 1773 a 1777 yn Llundain, a daeth yn amlwg yng nghymdeithasau Cymry Llundain, yn enwedig y Gwyneddigion.
Pan ddychwelodd i Gymru, priododd ac aeth i ffermio, er mai dim ond am gyfnod byr.
Sefydlodd Orsedd y Beirdd mewn seremoni ar Fryn Briallu, Llundain, yn 1792.
Yn 1819, cafodd yr Orsedd ei chysylltu’n ffurfiol â’r Eisteddfod, ac mae’r berthynas hon yn parhau hyd heddiw.