Disgwyl i Eluned Morgan gael ei hethol yn Brif Weinidog Cymru
Disgwyl i Eluned Morgan gael ei hethol yn Brif Weinidog Cymru
Mae disgwyl i arweinydd newydd y Blaid Lafur, Eluned Morgan, gael ei hethol yn Brif Weinidog Cymru ddydd Mawrth.
Bydd y Senedd yn cynnal pleidlais i ddewis Prif Weinidog newydd ddydd Mawrth.
Y Farwnes Morgan yw'r fenyw gyntaf i arwain Llafur Cymru ac i gael ei henwebu i fod yn Brif Weinidog Cymru.
Mae'r myfyriwr gwleidyddiaeth, Loti Glyn, yn edrych ymlaen at gael menyw wrth y llyw.
"Mae'n dangos i ferched ifanc bod nhw'n gallu gwneud cymaint yn fwy," meddai.
"Mae'n wir iawn os ti'n gallu gweld rhywun yn gwneud swydd, mae'n lot fwy tebygol bod ti'n meddwl bod ti'n gallu neud e dy hun."
Ond parhau mae'r heriau i fenywod yn y byd gwleidyddol, meddai'r sylwebydd gwleidyddol, Dr Elin Royles.
“Pan 'da ni’n edrych ar y darlun rhyngwladol, mae data UN Women eleni yn dweud mai 15 menyw sy’n arwain gwledydd y byd, felly mae’n gosod Cymru yn y cyd-destun rhyngwladol yna,” meddai.
“Ond ar yr un pryd, mae'n rhaid i ni beidio bod yn ddall i’r sefyllfa sy’n digwydd, lle mae llawer o fenywod yn wynebu mwy o heriau o ran y ffordd maen nhw’n cael eu trin ar-lein a'r math o agweddau sydd yna a’r ffordd mae 'na atgasedd tuag at fenywod wrth iddyn nhw arwain.”
Daw ar ôl i Vaughan Gething ysgrifennu at y Brenin nos Lun i ymddiswyddo fel Prif Weinidog Cymru.
“Rwyf heddiw wedi ysgrifennu at Ei Fawrhydi Y Brenin i ymddiswyddo fel Prif Weinidog,” meddai.
'Anrhydedd'
“Bu'n anrhydedd gwasanaethu pobl Cymru. Ein cryfder mwyaf fel cenedl yw ein daioni, haelioni a'n hysbryd creadigol. Diolch o galon.”
Y Farwnes Morgan oedd yr unig ymgeisydd i’w olynu fel arweinydd Llafur Cymru.
Mewn datganiad ar y pryd, dywedodd ei bod “wirioneddol yn anrhydedd” i fod y fenyw gyntaf i arwain Llafur Cymru ac i gael ei henwebu i fod yn Brif Weinidog.
“Rydw i eisiau sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael y cyfle a’r gallu i gyflawni eu potensial,” meddai.
“Roedd Huw Irranca-Davies a minnau’n sefyll yn fel partneriaeth falch, ac rydym wrth ein bodd ein bod wedi derbyn cefnogaeth aruthrol Aelodau Seneddol Llafur Cymru a chefnogaeth o bob rhan o Gymru a’r mudiad Llafur ehangach.”