Dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad ar yr A470
05/08/2024
Mae’r heddlu yn ymchwilio wedi i ddyn farw mewn gwrthdrawiad ar yr A470 brynhawn Sul.
Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng Land Rover Defender a beic modur coch Ducati tua 16.40 ddydd Sul, rhwng Rhaeadr a Llangurig.
Bu farw gyrrwr y beic modur yn y fan a'r lle.
Mae ei deulu agosaf wedi cael gwybod ac maen nhw’n cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
Cafodd y ffordd ei chau a’i hailagor tua 2.30 ddydd Llun.
Hoffai swyddogion siarad ag unrhyw fodurwyr a oedd yn yr ardal bryd hynny oedd â chamera cerbyd yn eu cerbydau.