Newyddion S4C

Teyrnged teulu i dad-cu fu farw ar ôl gwrthdrawiad yn Rhondda Cynon Taf

Ian Winder

Mae teulu tad-cu fu farw ar ôl gwrthdrawiad mewn tref yn Rhondda Cynon Taf wedi rhoi teyrnged iddo.

Bu farw Ian Winder, 46 oed, yn dilyn gwrthdrawiad ar ffordd yr A4233 ym Mhorth ar ddydd Mercher 18 Mehefin.

Roedd ganddo bedwar o blant a dau o wyrion.

Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd ei deulu bod eu "calonnau wedi torri".

"Roedd Ian yn dad, taid, mab, brawd ac ewythr anhygoel," meddai ei deulu. 

"Fe wnaeth ei gynhesrwydd, ei garedigrwydd a’i gariad gyffwrdd â phawb a gafodd y fraint o’i adnabod.

"Roedd adnabod Ian yn golygu ei garu — roedd ganddo ddawn brin i wneud i bobl deimlo eu bod yn cael eu gweld, eu gwerthfawrogi a’u codi.

"Roedd gan Ian ffordd o oleuo pob ystafell yr aeth i mewn iddi, nid yn unig gyda chwerthin, ond gyda’i bresenoldeb a’i gymeriad bythgofiadwy. Daeth â llawenydd, cysur a chryfder i’w deulu a’i ffrindiau bob dydd."

Ychwanegodd y teulu: "Bydd y golled ar ei ôl yn ddi-ben-draw — ond bydd ei ysbryd, ei chwerthin, a’r cariad a roddodd mor hael yn parhau ynom ni i gyd."

Mae'r teulu hefyd wedi diolch i'r gwasanaethau brys a ymatebodd i'r digwyddiad. 

Mae swyddogion o'r Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol yn parhau i apelio am wybodaeth am y gwrthdrawiad.

Yn ôl yr heddlu roedd y gwrthdrawiad yn cynnwys Ford Fiesta glas a Citroen Berlingo arian.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gyda'r heddlu gan ddyfynnu'r cyfeirnod 2500192693.


 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.