Llys yn clywed bod dyn o Ynys Môn 'wedi cam-drin dau fachgen yn rhywiol'
Mae rheithgor yn Llys y Goron Caernarfon wedi clywed honiadau ddydd Gwener bod dyn o Ynys Môn wedi cam-drin dau fachgen yn rhywiol.
Roedd Jonathan Evans, 32, o Falltraeth wedi bod yn swyddog gyda chadetiaid awyr ac yn dechnegydd mewn labordai ysgol.
Mae’n gwadu naw cyhuddiad yn gysylltiedig â’r honiad o gamdrin rhywiol.
Wrth gloi’r achos cyn i’r rheithgor ddechrau ystyried, dywedodd yr erlynydd Josh Gorst bod Evans yn honni bod y ddau ddioddefwr, sydd bellach yn oedolion, yn dweud celwydd.
"Pam fydden nhw?" gofynnodd. "Beth fydden nhw yn ei ennill werth wneud hynny? 'Does yna ddim tystiolaeth eu bod nhw’n nabod ei gilydd."
Roedd tyst wedi gweld Evans yn cyffwrdd â chadetiaid er gwaethaf rheolau clir, a chafodd ei ddisgrifio fel person "fflyrtlyd".
Roedd hi wedi’i adrodd dro ar ôl tro ac ni wnaed "dim byd" i amddiffyn y bechgyn rhagddo, meddai’r erlynydd.
Roedd negeseuon "damniol" hefyd. "Mae’r negeseuon hyn yn dangos yn glir ei fod yn wir wedi’i ddenu’n rhywiol at fachgen yn yr ysgol tra’n aelod o staff," ychwanegodd y bargyfreithiwr.
Ond dywedodd Anna Price, oedd yn amddiffyn, nad oedd yn ddyletswydd ar Evans i ddweud pam y gallai’r dioddefwyr honedig fod yn dweud celwydd.
"Ni allwch fod yn siŵr eu bod nhw’n dweud y gwir wrthych," mynnodd wrth y rheithgor.
Roedd tystiolaeth un ohonyn nhw'n "anhygoel o amwys," honnodd Miss Price.
Dywedodd y barnwr Nicola Jones fod un o'r dioddefwyr honedig wedi meddwl ar y pryd fod ymddygiad Evans yn "banter".
Roedd yr ail ddioddefwr honedig wedi bod yn "mewn sioc" ac yn "ofnus", meddai.
Dywedwyd bod Evans wedi defnyddio'r toiled at ddibenion pleser rhywiol, heb gynnwys y bechgyn, pan oedd yn y sgwadron.
Roedd cydweithiwr i Evans wedi codi pryderon amdano.
"Roedd hi'n teimlo nad oedd neb yn gwrando arni," meddai'r Barnwr Jones wrth y rheithgor wrth grynhoi'r dystiolaeth.
Fe wnaeth y diffynnydd fynnu ei fod wedi ymddwyn mewn ffordd "gyfeillgar ond proffesiynol".
Mae Evans yn gwadu cyhuddiadau o weithgaredd rhywiol gyda phlentyn tra mewn swydd o ymddiriedaeth mewn ysgol, annog gweithgaredd rhywiol ac ymosodiad rhywiol.
Bydd y rheithgor yn dechrau eu trafodaethau yr wythnos nesaf.