Newyddion S4C

Tro pedol sylweddol gan Lywodraeth y DU ar newidiadau i fudd-daliadau

Keir Starmer (PA)

Mae Syr Keir Starmer wedi cael ei orfodi i wneud tro pedol sylweddol ar newidiadau arfaethedig i fudd-daliadau, a hynny er mwyn tawelu'r gwrthwynebiad i'r newidiadau ymysg aelodau seneddol ei blaid ei hun.

Bydd pobl sy'n derbyn y taliad annibyniaeth bersonol (PIP) ar hyn o bryd yn parhau i wneud hynny ar ôl i'r Llywodraeth gyhoeddi newidiadau munud olaf ar y diwygiadau lles dadleuol.

Dywedodd llythyr gan yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau Liz Kendall at ASau y byddai addasiadau i Gredyd Cynhwysol (Universal Credit) hefyd yn diogelu incwm y rhai sydd yn ei hawlio ar hyn o bryd.

Daw'r cyhoeddiad ar ôl trafodaethau brys gyda'r meinciau cefn, gyda thua 126 o ASau o fewn y blaid yn llofnodi gwelliant a fyddai'n atal y ddeddfwriaeth rhag cael ei phasio.

Mae Bil Credyd Cynhwysol a Thaliad Annibyniaeth Personol Syr Keir Starmer yn cael ei ystyried yn San Steffan ddydd Mawrth, sef y cyfle cyntaf i ASau ei gefnogi neu ei wrthod.

Dywedodd llefarydd ar ran Rhif 10 Downing Street: “Rydym wedi gwrando ar ASau sy'n cefnogi egwyddor diwygio ond yn poeni am gyflymder y newid i'r rhai sydd eisoes yn cael eu cefnogi gan y system.

“Bydd y pecyn hwn yn cadw'r system nawdd cymdeithasol i'r rhai sydd ei hangen trwy ei rhoi ar sail gynaliadwy, yn darparu urddas i'r rhai na allant weithio, yn cefnogi'r rhai sy'n gallu ac yn lleihau pryder i'r rhai sydd yn y system ar hyn o bryd.

“Mae ein diwygiadau wedi’u hategu gan werthoedd Llafur a’n penderfyniad i gyflawni’r newid y pleidleisiodd y wlad drosto y llynedd.”

Roedd pecyn gwreiddiol y Llywodraeth yn cyfyngu ar gymhwysedd ar gyfer y taliad annibyniaeth bersonol (PIP), y prif daliad anabledd, ac yn cyfyngu ar yr elfen o Gredyd Cynhwysol sy'n gysylltiedig â salwch.

Roedd derbynwyr presennol y budd-dal i fod i gael cyfnod dileu graddol o 13 wythnos o gymorth ariannol o dan y cynllun gwreiddiol, oedd wedi ei weld fel ymgais i osgoi gwrthwynebiad trwy anelu at leddfu effaith y newidiadau.

Byddai'r newid i daliadau PIP wedi effeithio ar 370,000 o bobl.

Roedd ymateb cymysg ymhlith elusennau i’r newyddion am y tro pedol. 

Dywedodd yr elusen anabledd dysgu Mencap y byddai’r newyddion yn “rhyddhad enfawr i filoedd o bobl sy’n byw mewn ofn o’r hyn sydd gan y dyfodol i’w gynnig”.

“Dyma’r peth iawn i’w wneud ac mae’n anfon neges glir – nid yw torri budd-daliadau anabledd yn ffordd deg o drwsio’r twll du yn y pwrs cyhoeddus,” meddai eu cyfarwyddwr strategaeth Jackie O’Sullivan.

Ond anogodd Cymdeithas MS y gwrthryfelwyr i ddal yn gadarn a rhwystro’r Mesur, gan fynnu y byddai unrhyw gynnig gan y Llywodraeth i wanhau’r diwygiadau yn gyfystyr â “gohirio’r broses a gohirio trychineb anochel”.

 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.