
‘Hunllef’: Carchar am oes i ddyn a lofruddiodd bachgen ysgol â chleddyf samurai
Mae dyn a wnaeth ymosod ar fachgen ysgol â chleddyf a bron â thorri ei ben i ffwrdd wedi ei garcharu am oes.
Roedd Marcus Arduini Monzo, 37, wedi lladd Daniel Anjorin, 14 oed, â chleddyf samurai.
Fe gafodd Monzo ei ddedfrydu i leiafswm o 40 mlynedd yn y carchar yn llys yr Old Bailey ddydd Gwener.
Roedd Monzo wedi lladd a thynnu croen ei gath Wizard cyn rhedeg yn wyllt yn Hainault yng ngogledd-ddwyrain Llundain ar 30 Ebrill y llynedd.
Yn ogystal â lladd Daniel, ymosododd Monzo ar gerddwr, dau swyddog heddlu a chwpl yn eu cartref eu hunain cyn iddo gael ei arestio.
Wrth roi datganiad dioddefwr i’r llys ddydd Gwener, dywedodd tad Daniel Anjorin bod dod o hyd i’w fab wedi’i anafu’n angheuol yn y stryd ar ôl yr ymosodiad yn “hunllef”.
Dywedodd Dr Ebenezer Anjorin ei fod wedi cael gwybod gan ei fab hynaf fod Daniel wedi cael ei drywanu ar y ffordd ger ei dŷ.
“Rhedais allan o'r tŷ ac ar draws y ffordd gwelais gorff wedi plygu wrth ochr y ffordd,” meddai.
“Doeddwn i ddim wedi sylweddoli mai Daniel oedd o ar y dechrau ond, wrth i mi nesáu, fe wnes i adnabod ei ddillad ymarfer corff a gwelais ei wyneb.
“Roedd yn gorwedd mewn pwll o waed ac roedd ganddo doriad dwfn i'w wyneb o ochr ei geg i gefn ei wddf.
“Doedd o ddim yn symud. Roeddwn i'n gwybod ar unwaith ei fod wedi marw, ond estynnais i lawr, gwaeddais ei enw a dal ei ben.”

Dywedodd Dr Anjorin na allai ddechrau disgrifio'r "boen a'r ing" a deimlai'r teulu wrth golli Daniel, a oedd yn academaidd ac yn mwynhau chwaraeon a cherddoriaeth.
Dywedodd: "Ni fyddwn yn ei weld yn priodi nac yn cael plant. Yr holl bethau arferol y mae rhieni'n eu gobeithio i'w plant.
"Fe gafodd yr holl ddyheadau a’r gobeithion eu cipio oddi wrthym yn greulon trwy weithredoedd Marcus Monzo.
"Mae wedi bod yn hunllef ac yn brofiad gwaethaf ein bywydau. Gorfod mynd trwy boen colli plentyn mewn ffordd mor greulon â gwyllt.
"Ni ddylai unrhyw deulu orfod mynd trwy hyn."
Wrth roi tystiolaeth yn ei achos llys, dywedodd Monzo nad oedd ganddo unrhyw atgof o'r hyn a ddigwyddodd a bod ganddo gyfrifoldeb lleiedig am ei droseddau o ganlyniad i’w gyflwr meddyliol.
Ond er i Monzo ddweud ei fod wedi yfed te oedd yn achosi iddo weld pethau (hallucinogenic) o'r enw ayahuasca, ni chafodd unrhyw olion eu darganfod yn ei system.
Fodd bynnag, dadleuodd yr erlyniad nad oedd seicosis o ganlyniad i gymryd cyffur yn fwriadol yn amddiffyniad dros lofruddiaeth.
Fe wnaeth y rheithgor gael Monzo yn euog o lofruddiaeth, tri chyhuddiad o geisio llofruddio, byrgleriaeth wedi’i waethygu, a bod ag arf lafnog yn ei feddiant.
Penderfynodd y rheithgor nad oedd yn euog o geisio llofruddio un o’r dioddefwyr, Henry De Los Rios Polania, ond ei fod yn hytrach yn euog o glwyfo gyda'r bwriad o achosi niwed corfforol difrifol.