
Carchar am oes i ddyn 21 oed am lofruddio dyn yng Nghaerdydd
Mae dyn 21 oed o Gaerdydd wedi cael ei ddedfrydu i garchar am oes am lofruddio dyn arall yn ardal Llaneirwg o'r ddinas.
Cafwyd hyd i James Brogan gydag anafiadau difrifol ger parc wrth Ffordd Coleford a bu farw yn yr ysbyty yn fuan wedyn ar 12 Tachwedd, 2024.
Roedd wedi cael ei drywanu yn ei fraich gan Georgie Tannetta, a arweiniodd at ataliad ar y galon.
Gwadodd Tannetta, o ardal Trowbridge, lofruddiaeth, dynladdiad, a bod â llafn yn ei feddiant ond fe'i cafywd yn euog o lofruddiaeth gan reithgor yn Llys y Goron Casnewydd ym mis Mai.
Cafodd ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd i garchar am oes ddydd Gwener, ac fe fydd yn rhaid iddo dreulio o leiaf 22 mlynedd dan glo.
Yn dilyn y ddedfryd, dywedodd merch James, Sophie: “Nid dim ond ein tad ni oedd fy nhad; ef oedd canolbwynt ein teulu. Os oedd angen help ar rywun, byddai’n dod. Dyna’r math o ddyn oedd o.
"Hebddo rydym yn teimlo ein bod wedi ein torri, ac rydym yn teimlo ar goll. Does dim byd y gallwn ei ddweud i’w ddwyn yn ôl, ond gallwn siarad am yr hyn yr ydym wedi’i golli.
"Roedd yn dad, yn fab, yn frawd, yn ewythr, yn ffrind. Roedd ei adnabod yn golygu ei garu, ac mae ei golli fel hyn wedi bod yn annioddefol. Nid yw cario cyllell yn weithred ddiniwed.
"Mae’n cario risgiau ac mae’n dod â phoen. A gall ddod â bywydau i ben. Rhaid i farwolaeth ein tad sefyll fel atgof bod canlyniadau i’r math hwn o drais.”

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Rebecca Merchant o Dîm Ymchwilio i Droseddau Mawr Heddlu De Cymru: “Roedd James Brogan yn cael ei garu’n fawr gan ei deulu a’i ffrindiau. Mae ei farwolaeth wedi gadael twll enfawr yn eu bywydau.
“Mae ein meddyliau gyda’i deulu heddiw fel y maent wedi bod drwyddo draw.
“Gobeithiwn y bydd dedfryd heddiw yn rhoi rhywfaint o heddwch iddynt ac yn caniatáu iddynt ddechrau’r broses o ddod i delerau gyda hyn.
“Mae’r achos trasig hwn unwaith eto’n tynnu sylw at ganlyniadau dinistriol a phellgyrhaeddol troseddau cyllyll. Ni fydd mynd â chyllyll ar ein strydoedd yn cael ei oddef."