Y Gymraes Emma Finucane yn cipio'r aur yn y Gemau Olympaidd
Mae Emma Finucane o Gaerfyrddin wedi ennill medal aur yn y Gemau Olympaidd ym Mharis wrth gystadlu gyda'i chyd seiclwyr yn y tîm gwibio nos Lun.
Gyda'i chyd aelodau, Sophie Capewell a Katy Marchant, llwyddodd y tair i dorri record y byd.
Ac er bod Tîm Prydain yn ail ar ddechrau'r ras yn erbyn Seland Newydd, llwyddodd Emma Finucane i adennill tir, gan groesi'r llinell ar 45.186 eiliad.
Croesodd Seland Newydd y llinell 0.473 eiliad yn ddiweddarach, er mwyn cipio'r fedal arian.
Mae dawn Emma wedi ei ganmol gan Laura Kenny, dynes fwyaf llwyddiannus Tîm Prydain yn y gemau Olympaidd.
Mae Kenny o'r farn y gallai Finucane ennill y fedal aur ym mhob un o’i thair cystadleuaeth: y tîm gwibio, y gwibio a’r keirin.
A gydag un fedal aur bellach yn ei meddiant, bydd y Gymraes yn canolbwyntio nesaf ar ei chystadleuaeth unigol.