Newyddion S4C

'Bywyd wedi newid' ers ennill cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn 2023

'Bywyd wedi newid' ers ennill cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn 2023

Mae enillydd cystadleuaeth Dysgwyr y Flwyddyn 2023 wedi dweud fod ei bywyd “wedi newid” ers ei buddugoliaeth y llynedd. 

Yn wreiddiol o’r Alban, dywedodd Alison Cairns, sydd bellach yn byw ar Ynys Môn, ei bod wedi treulio’r flwyddyn ddiwethaf yn magu ei hyder wrth ddefnyddio’r iaith.

Ac wedi iddi gael ei hurddo i’r Orsedd ddydd Llun, mae’n edrych ymlaen at barhau i hyrwyddo’r iaith, meddai. 

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd: “Mae ‘di bod yn flwyddyn brysur.

“Dwi ‘di cael lot o cyfweliadau dros y we, trio siarad efo pobl sut dwi ‘di dysgu Cymraeg a sut ma’ nhw medru dysgu Cymraeg a faint o hawdd ydi o hefyd i dysgu Cymraeg. 

“Achos dwi byth ‘di cael gwers Cymraeg ond dwi dal yn medru siarad Cymraeg rŵan.” 

'Hyderus'

Dywedodd ei bod bellach yn berson “fwy hyderus” wedi iddi ennill Cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn y llynedd. 

Cyn ei buddugoliaeth, mi oedd Alison yn berson “swil”, ond bellach dywedodd ei bod yn siarad Cymraeg gyda “lot mwy o bobol.” 

“Dwi dal yn dysgu bob dydd ‘de ond siarad efo pobl dros y we, mae hyn wedi helpu fi efo hyder fi yn bendant blwyddyn yma," meddai.

“Achos dwi’n person reit – dwisho jest cuddiad yn ôl. 

“Ers ennill Dysgwr y Flwyddyn mae ‘di cael fi allan, dwi efo mwy o hyder.” 

'Mwynhau'

Joshua Morgan, Alanna Pennar-Macfarlane, Elinor Staniforth ac Antwn Owen-Hicks yw’r rhai sydd wedi cyrraedd rhestr fer Dysgwyr y Flwyddyn eleni. 

Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi yn ystod seremoni Dysgwr y Flwyddyn ar lwyfan y Pafiliwn ym Mharc Ynysangharad, ddydd Mercher. 

Ac mae Alison Cairns yn annog pob un ohonynt i “fwynhau bob eiliad.” 

“Mwynhau y diwrnod, mae’n diwrnod dydyn nhw ddim yn mynd i cael eto ‘de. 

“Jyst cymryd bob eiliad mewn a wedyn pwy sy’n mynd i ennill ‘de, maen nhw’n mynd i cael blwyddyn gwyllt.” 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.