Tafarn Conwy: Y sylw wedi 'creu drama'
Mae perchennog tafarn a ofynnodd i bobl oedd yn canu yn Gymraeg i adael wedi dweud bod "y cyfryngau yn tueddu i wneud i bethau edrych yn waeth nag y maen nhw."
Ddydd Sul roedd y cyn gyflwynydd tywydd Siân Lloyd wedi cyhoeddi ar-lein bod cyfaill iddi wedi ei thaflu allan o dafarn y Blue Bell neu'r Gloch Las yng Nghonwy am “ganu yn Gymraeg”.
Ond fore Llun roedd hi wedi dweud ar X bod hi wedi siarad gyda'r perchennog, Jared Dunn a'i bod hi wedi cael "sgwrs hyfryd" ag ef.
"Roeddem wedi cytuno ar nifer o bethau, ond yn enwedig ar sut mae'r cyfryngau cymdeithasol yn gwneud i bethau edrych yn waeth nag y maen nhw.
"Dwi nawr yn edrych ymlaen at gwrdd ag ef a dweud iechyd da dros beint o Guinness."
Inline Tweet: https://twitter.com/SianWeather/status/1820211517880774791
Wrth ymateb i'r honiadau ddydd Sul dywedodd Mr Dunn nad oedd yr iaith Gymraeg yn ffactor.
“Dydw i ddim hyd yn oed am ymateb honiadau hurt am iaith,” meddai.
“Does dim ots os ydych chi’n canu yn Saesneg, Cymraeg, Tsieinëeg neu Rwsieg, fe fyddwn ni’n gofyn i chi stopio, ac os na fe fyddwn ni’n gofyn i chi adael.”
Awgrymodd bod y sylw i'r digwyddiad “wedi creu drama lle nad oedd dim mewn gwirionedd”.