Mali Elwy yn cipio Coron Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr 2025
Mali Elwy yn cipio Coron Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr 2025
Mali Elwy yw enillydd y Goron yn Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr 2025.
Fe gafodd Mali, sydd yn wreiddiol o Tan-y-Fron ger Llansannan, ei choroni ar Lwyfan y Pafiliwn yn Eisteddfod yr Urdd ym Mharc Margam ddydd Gwener.
Yn ail yn y gystadleuaeth oedd Catrin Morris o Lanberis, gydag enillydd y Gadair eleni, Elain Roberts o Bentre’r Bryn, yn drydydd.
Gofynion cystadleuaeth Y Goron eleni oedd cyfansoddi darn neu ddarnau o ryddiaith dros 2,500 o eiriau ar y thema ‘Toddi / Ymdoddi’.
Daeth 17 ymgais i law gyda’r beirniad Menna Elfyn ac Emyr Lewis “wedi’u plesio yn arbennig gyda bob un o’r cynigion.”
Meddai’r beirniaid am y gwaith buddugol: “Hanes merch ifanc sydd â’i pherthynas wedi chwalu a geir yma, ac mae’n penderfynu dilyn cwrs ysgrifennu creadigol gyda’r nos.
"Down i wybod ei hanes yn raddol. Ceir hiwmor a dwyster yma – stori o fewn stori.
“Dyma awdur aeddfed sy’n gwybod sut i saernïo stori yn gelfyddyd. Dyma lais newydd cyffrous sy’n llawn haeddu ennill Coron Eisteddfod yr Urdd Parc Margam a’r Fro.”
Mae Mali yn 24 oed a bellach yn byw yn Y Felinheli.
Yn gyn-ddisgybl Ysgol Glan Clwyd, graddiodd yn y Gymraeg ac Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Bangor ac mae’n gweithio fel hwylusydd llawrydd yn ardal Gwynedd.
Dyma’r tro cyntaf iddi gystadlu am y Goron. Mae Mali yn diolch i Dr Marged Tudur ac Adran y Gymraeg, Prifysgol Bangor am bob cefnogaeth, ac i Ysgol Glan Clwyd am ei hysbrydoli ac am bob anogaeth wrth iddi ddechrau ysgrifennu flynyddoedd yn ôl.
Nicola Palterman o Gastell-nedd oedd gwneuthurwraig y Goron eleni.
Dywedodd: “Ro’n i’n awyddus bod y cynllun yn cynnwys y Dur a’r Môr. Mae tonnau’r tirlun arfordirol yn ardal Aberafan i’w gweld, a’r adar sy’n symbol cryf yng Nghân y Croeso eleni ac yn cynnig arwydd cryf o obaith at y dyfodol. Ond mae hefyd yn cydnabod pwysigrwydd y diwydiant dur sydd wedi bod yn asgwrn cefn i bobl dros y blynyddoedd.”
Rhoddir y goron gan ysgolion cynradd Rhanbarth Gorllewin Morgannwg a noddir y seremoni gan Brifysgol Caerdydd.