Gofyn i bobl oedd yn canu yn Gymraeg i adael tafarn ‘ddim byd i’w wneud â’r iaith’
Mae tafarn yng Nghonwy a ofynodd i bobl oedd yn canu yn Gymraeg i adael wedi dweud nad oedd y penderfyniad ddim byd i’w wneud â’r iaith.
Dywedodd tafarn y Blue Bell, neu'r Gloch Las, yng Nghonwy nad oedden nhw’n caniatau “canu mewn grwpiau mawr” am ei fod yn newid “naws” y dafarn.
Daw ymateb y dafarn wedi i’r cyn gyflwynydd tywydd Sian Lloyd gyhoeddi arlein bod cyfaill iddi wedi ei thaflu allan o’r dafarn am “ganu yn Gymraeg”.
“Pwy sydd eisiau ymuno â mi wrth ganu’n hyfryd yn Gymraeg yn The Blue Bell yng Nghonwy?” gofynnodd.
“Mae ffrindiau i mi newydd gael eu taflu allan am ganu yn eu hiaith frodorol.
“Gallwn ni naill ai ganu nerth bein pennau neu eu boicotio.”
Inline Tweet: https://twitter.com/SianWeather/status/1819830209018834984
Ond mae’r dafarn wedi wfftio unrhyw awgrym bod pobl wedi gorfod gadael am eu bod nhw’n canu yn Gymraeg.
“Dydw i ddim hyd yn oed am ymateb honiadau hurt am iaith,” medden nhw.
“Does dim ots os ydych chi’n canu yn Saesneg, Cymraeg, Tsieinëeg neu Rwsieg, fe fyddwn ni’n gofyn i chi stopio, ac os na fe fyddwn ni’n gofyn i chi adael.”
Awgrymodd bod y sylw i'r digwyddiad “wedi creu drama lle nad oedd dim mewn gwirionedd”.