Newyddion S4C

Merch un oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar safle gwersylla ger Caernarfon

Bryn Gloch

Mae merch un oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar safle gwersylla ger Caernarfon ddydd Llun.

Fe wnaeth yr heddlu dderbyn galwad 999 am 10.20 i adroddiad am wrthdrawiad rhwng cerbyd a merch un oed ar safle carafanau a gwersylla Bryn Gloch ym Metws Garmon.

Anfonwyd y gwasanaethau brys i'r lleoliad, gan gynnwys yr Ambiwlans Awyr, ac fe gafodd y plentyn ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Alder Hey yn Lerpwl.

Er gwaethaf ymdrechion pawb a oedd yn gysylltiedig, bu farw'r plentyn yn yr ysbyty yn y prynhawn, meddai’r heddlu.

Mae'r crwner wedi cael gwybod.

Dywedodd y Rhingyll Simon Hughes o'r Uned Troseddau Ffyrdd: “Mae ein cydymdeimlad dwysaf yn parhau gyda theulu'r ferch yn ystod yr amser anodd hwn. 

“Fe fyddan nhw’n cael eu cefnogi gan Swyddog Cyswllt Teulu sydd wedi'i hyfforddi'n arbennig.

“Mae'r ymchwiliad i sefydlu beth achosodd y gwrthdrawiad yn mynd rhagddo'n a hoffwn ddiolch i bawb a gynorthwyodd ar y safle heddiw.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.