Newyddion S4C

Cymro ifanc yn ceisio torri record wrth ddringo Everest

ITV Cymru
Callum Hughes

Mae llanc 17 oed o Gaerdydd yn hyfforddi i ddringo Mynydd Everest, ac yn ceisio torri'r record drwy fod y person ieuengaf o Gymru a'r DU i ddringo i'r copa.

Ar hyn o bryd mae Callum Hughes yn fyfyriwr, a chyda’r nos mae’n ymarfer ar gyfer yr her fawr. 

"Rwy’n dringo creigiau, a gyrru i’ Bannau Brycheiniog, neu unrhyw le y gallaf fynd ar daith hir. Dyna fy niwrnod arferol, fel arfer." meddai.

"Ar hyn o bryd rwy'n gwneud llawer o hyfforddiant cardiofasgwlaidd a chryfder. Mae gymaint o waith yn mynd mewn i’r hyfforddi.”

'Breuddwyd’

Yn ôl Callum Hughes, mae cyrraedd copa Everest wedi bod yn freuddwyd iddo ers amser maith.

"Rwy'n gwybod nad yw'n mynd i fod yn daith hawdd, ond dwi am geisio. 

"Os nad ydw i yn mentro i drio, byddai ond yn gallu breuddwydio am gyrraedd y copa.” 

Mae Callum yn gobeithio y bydd ei ymdrechion yn ysbrydoli eraill i ddilyn eu breuddwydion.  

Bydd Callum yn cario’r ddraig goch gydag e, ac yn gobeithio cael chwifio'r faner ar gopa’r mynydd. 

"Does dim llawer o bobl o Gymru wedi gwneud y siwrnai o gwbl, felly mae'n mynd i fod yn gyflawniad enfawr i Gymru."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.