Cymru yn cwympo o haen uchaf Cynghrair Cenhedloedd Merched UEFA
Mae tîm merched Cymru wedi disgyn o haen uchaf Cynghrair Cenhedloedd UEFA yn dilyn colled 1-0 yn erbyn Denmarc nos Wener.
Mae’r canlyniad yn golygu fod tîm Rhian Wilkinson wedi gorffen ar waelod tabl grŵp A4, gyda dau bwynt wedi chwe gêm.
Fe fydd y tîm yn dychwelyd i gynghrair B ar gyfer eu hymgyrch nesaf yn y gystadleuaeth.
Cyn y gêm, roedd angen buddugoliaeth ar Gymru i osgoi cwympo o gynghrair A.
Roedd y Cymry yn apelio am gôl yn gynnar yn eu gêm yn Odense, gyda Jess Fishlock yn grediniol fod y bêl wedi croesi’r llinell ar ôl tacl.
Ond ni chafodd y gôl ei chaniatáu, gyda UEFA yn cadarnhau yn ddiweddarach nad oedd y dechnoleg ei angen i wirio a oedd y bêl wedi croesi’r llinell ar gael ar gyfer y gêm.
Ac ar ddechrau’r ail hanner, fe wnaeth ymosodwr Denmarc, Pernille Harder, rwydo gydag ergyd i gornel isaf y rhwyd.
Er gwaethaf ymdrechion yr ymwelwyr i orfodi’u ffordd yn ôl i’r gêm, fe lwyddodd y tîm cartref i ddal ymlaen i’w mantais tan y chwiban olaf.
Bydd tîm Rhian Wilkinson yn croesawu'r Eidal i Abertawe nos Fawrth yn eu gêm olaf yn yr ymgyrch, a'u gêm olaf cyn Ewro 2025 yn y Swistir fis Gorffennaf.