Newyddion S4C

Wynne Evans wedi ei ollwng gan BBC Radio Wales ar ôl ei sylw amhriodol

30/05/2025
Wynne Evans

Mae'r canwr a'r darlledwr Wynne Evans wedi dweud nad yw ei gytundeb cyflwyno ar BBC Radio Wales wedi cael ei adnewyddu, ar ôl iddo ymddiheuro am sylwadau a wnaeth yn ystod lansiad taith Strictly Come Dancing.

Roedd y canwr opera o Gaerfyrddin wedi bod ar daith gyda’r sioe fyw ar ôl cystadlu ar y rhaglen ar BBC One gyda Katya Jones.

Cafodd fideo ei ffilmio yn ystod lansiad y daith fyw ar 16 Ionawr lle'r oedd modd clywed Mr Evans yn gwneud sylw amhriodol.

Mewn datganiad yn fuan wedyn dywedodd: “Roedd fy iaith yn amhriodol ac yn annerbyniol ac rydw i’n ymddiheuro’n ddiffuant.”

Mewn neges ar Instagram ddydd Gwener, dywedodd: “Fy Wynners annwyl, O ddyfnderoedd fy nghalon - diolch.

“Yn yr ychydig fisoedd diwethaf, eich cariad chi sydd wedi bod yn oleuni yn fy nyddiau tywyllaf. Mae pob neges, pob gair o anogaeth, pob eiliad y gwnaethoch sefyll gyda mi wedi fy nghario trwodd yn fwy nag y gallech chi fyth ei wybod.

“Mae’n torri fy nghalon i ddweud bod y BBC wedi penderfynu peidio ag adnewyddu fy nghytundeb felly ni fyddaf yn dychwelyd i’m sioe radio.

“Nid gwaith yn unig oedd y sioe honno – roedd yn gartref...Roedden ni’n chwerthin, yn crio, yn canu fel nad oedd neb yn gwrando. A rhywsut, dros y tonfeddi, fe ddaethon ni’n deulu.”

Llun: BBC Studios


 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.