Newyddion S4C

Chwaer Emiliano Sala mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty

Mirror 07/07/2021
Cofio Emiliano Sala yn Stadiwm Dinas Caerdydd

Mae adroddiadau bod chwaer y diweddar Emiliano Sala mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty ar ôl iddi geisio lladd ei hun.

Mae Romina Sala, chwaer y pêl-droediwr fu farw mewn damwain awyren ym mis Ionawr 2019, mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty, meddai The Mirror.

Roedd y pêl-droediwr yn teithio i Gymru i ymuno â chlwb pêl-droed Caerdydd, cyn i'r awyren ddiflannu dros y sianel rhwng Ffrainc a Lloegr.

Cafodd ymchwiliad ei lansio gan yr awdurdodau, ac fe gafodd gweddillion yr awyren fechan eu darganfod ar wely'r môr yn ddiweddarach.

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Llun: Asiantaeth luniau Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.