Cyn-chwaraewr rygbi Cymru, Alun Carter, wedi marw yn 59 oed
Mae cyn-chwaraewr rygbi Cymru, Pont-y-pŵl a Chasnewydd, Alun Carter, wedi marw yn 59 oed.
Fe wnaeth y cyn-flaenasgellwr ei ymddangosiad cyntaf i Gymru yn erbyn Lloegr yn 1991 ac enillodd yr ail o'i ddau gap yn erbyn yr Alban y flwyddyn honno.
Fe ddaeth ei gap cyntaf yn yr un gêm a Neil Jenkins, Scott Gibbs a Glenn George.
Daeth Carter yn ddadansoddwr chwaraeon o fri ac fe dreuliodd 12 mlynedd fel rhan o dîm hyfforddi Cymru, gan gynnwys Cwpan y Byd 1999 a llwyddiant y Gamp Lawn yn 2005.
Bu’n gweithio o dan yr hyfforddwyr cenedlaethol Kevin Bowring, Graham Henry, Steve Hansen, Mike Ruddock, Scott Johnson a Gareth Jenkins.
Yn ddiweddarach cafodd Carter ei aduno â Ruddock yng Nghaerwrangon, lle dreuliodd pum mlynedd fel rheolwr tîm.
Fe ddaeth yn ôl i Bont-y-pŵl am 18 mis fel ymgynghorydd a chyfarwyddwr rygbi tan 2015.
Roedd hyn cyn cymryd rôl ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd fel darlithydd mewn dadansoddi perfformiad chwaraeon.
Llun: Asiantaeth Huw Evans