Grŵp yn brwydro i adfywio safle Ysgol Abersoch
Grŵp yn brwydro i adfywio safle Ysgol Abersoch
Gan mlynedd yn ôl, agorodd Ysgol Babanod Abersoch am y tro cyntaf.
Ond gyda dim ond chwe disgybl yno erbyn 2021, fe gaeodd a welodd yr ysgol bren byth ei chanmlwyddiant.
Yn gyrchfan i dwristiaid, ond hefyd a nifer o ail gartrefi roedd 'na bryder y byddai cau'r ysgol yn cael effaith negyddol ar iaith Gymraeg ardal Abersoch.
Ond bwriad Menter Rabar yw adfywio'r adeilad at ddiben y pentref a'r cymunedau cyfagos.
Maen nhw'n benderfynol o ddefnyddio canmlwyddiant agor yr ysgol fel man cychwyn i sicrhau ei dyfodol.
"Ni'n mynd i obeithio cael caffi ac arddangosfa treftadaeth yn integredig.
"Canolfan amlbwrpas. Ni'n gobeithio uno clybiau dementia a phlant.
"Gardd gymunedol. Unedau busnes - dw i'n meddwl bod y rheiny am fod yn arloesol."
Mae'r criw wedi gosod targed o £500,000 i wireddu'r cynllun yn ei gyfanrwydd.
Heb yr ysgol, fyddwn i ddim yn gwybod am hanes y pentref a'r plwyf.
Hefyd, enwau adar, blodau a phethau fel'na.
Yn ddiweddar, pan o'n i yna, o'dd o yn bwysig i hybu'r iaith hefyd.
Mae llawer o bobl yn symud i mewn 0nd mae'r plant yn mynd o 'ma'n ddwyieithog.
Mae Abersoch yn cael enw gwael ddim hyd yn oed o bobl tu allan ond o bobl o Ben Llyn weithiau yn deud bod neb yn siarad Cymraeg.
Mae'n bwysig gwneud defnydd o'r adeilad.
Mae'n hen adeilad mae'n bwysig i'w defnyddio a'i bod hi ar agor i bobl.
Mae mor drist bod hi ar gau.
Trwy wneud hyn byddwn ni'n dathlu'r canmlwyddiant mewn ffordd gadarnhaol iawn.
Canrif ers agos yr ysgol bren, mae 'na gyfle i adfer calon y gymuned a'r gwaith mawr yn dechrau nawr.