Newyddion S4C

Mwy na 70 wedi eu lladd mewn protestiadau yn erbyn y llywodraeth yn Bangladesh

04/08/2024
Bangladesh

Mae o leiaf 76 o bobl wedi’u lladd yn Bangladesh ynghanol gwrthdaro cynyddol rhwng yr heddlu a phrotestwyr yn erbyn y llywodraeth.

Daw’r aflonyddwch wrth i arweinwyr myfyrwyr ddatgan ymgyrch o anufudd-dod sifil i fynnu bod y Prif Weinidog Sheikh Hasina yn ymddiswyddo.

Cafodd 13 o swyddogion heddlu eu lladd pan ymosododd miloedd o bobl ar orsaf heddlu yn ardal Sirajganj, meddai’r awdurdodau.

Dechreuodd protest y myfyrwyr gyda galw i ddileu cwotâu mewn swyddi yn y gwasanaeth sifil fis diwethaf, ond maen nhw bellach wedi troi’n fudiad gwrth-lywodraeth ehangach.

Mae'r heddlu wedi defnyddio bwledi rwber a nwy dagrau i wasgaru protestwyr ledled y wlad - yn ogystal â gorfodi cyrffyw gyda'r nos.

Mae tua 200 o bobol wedi’u hanafu.

Yn y brifddinas, Dhaka, mae mynediad i'r rhyngrwyd ar ddyfeisiau symudol wedi'i atal.

Cafodd mwy na 200 o bobl eu lladd ym mis Gorffennaf, gyda nifer ohonyn nhw wedi’u saethu gan yr heddlu.

Yn ôl adroddiadau mae tua 10,000 o bobl wedi cael eu cadw yn y ddalfa mewn gwrthdaro gyda lluoedd diogelwch yn ystod y pythefnos diwethaf.

Roedd y rhai a arestiwyd yn cynnwys cefnogwyr yr wrthblaid a myfyrwyr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.