Heddluoedd ar draws y DU yn disgwyl rhagor o brotestiadau ddydd Sul
Heddluoedd ar draws y DU yn disgwyl rhagor o brotestiadau ddydd Sul
Mae heddluoedd ar draws y DU yn paratoi am rhagor o brotestiadau ddydd Sul ar ôl i brotestiadau droi’n dreisgar ddydd Sadwrn.
Cafodd dros 90 o bobl gael eu harestio ar ôl aflonyddwch yn Hull, Lerpwl, Bryste, Manceinion, Stoke-on-Trent, Blackpool a Belfast ddydd Sadwrn.
Mae’r heddlu wedi cynyddu eu presenoldeb yn Southport ddydd Sul wrth iddyn nhw ddisgwyl protest yno.
Roedd cannoedd o brotestwyr yn erbyn mewnfudo wedi ymgynnull tu allan i westy yn Rotherham yn gynharach ddydd Sul.
Mae adroddiadau y gallai fod protest cael ei gynnal yng Nghaerdydd yn ogystal.
Dywedodd y Gweinidog Heddlua, Diana Johnson, fod gan yr heddlu “yr holl adnoddau oedd eu hangen” i ddelio gyda’r anrhefn. Dywedodd y byddai llysoedd yn gallu cael eu cynnal dros nos a bod gan yr heddluoedd rymoedd i alw ar swyddogion ychwanegol os oedd angen.
'Hau casineb'
Mae'r Prif Weinidog wedi addo rhoi "cefnogaeth lawn" y llywodraeth i heddluoedd i weithredu yn erbyn "eithafwyr" sy'n ceisio "hau casineb".
Mae tensiynau wedi bod yn uchel yn dilyn ymosodiad Southport, ble fu farw tri phlentyn ifanc.
Yn Lerpwl, taflwyd brics, poteli a fflachiadau at yr heddlu. Cafodd un swyddog ei daro yn ei ben pan daflwyd cadair, a chafodd un arall ei gicio a'i daro oddi ar ei feic modur.
Roedd yn rhaid i'r heddlu wahanu grŵp o brotestwyr asgell dde a grŵp oedd wedi ymgasglu y tu allan i Fosg Abdullah Quilliam, a grŵp o wrth-brotestwyr.
Cafodd llyfrgell ei rhoi ar dân yn ardal Walton o’r ddinas.
Dywedodd y llu fod nifer o swyddogion wedi cael eu hanafu yn yr hyn y maen nhw'n ei ddisgrifio fel "anrhefn ddifrifol" a bod dau wedi'u cludo i'r ysbyty.
Cafodd 23 o bobl eu harestio.
Mewn cyfarfod o weinidogion y llywodraeth yn gynharach ddydd Sadwrn, dywedodd llefarydd ar ran Syr Keir Starmer fod y Prif Weinidog wedi dweud wrth y rhai sydd wedi ymgynnull fod “yr hawl i gael rhyddid mynegiant a’r anhrefn treisgar yr ydym wedi’i weld yn ddau beth gwahanol iawn”.
Ychwanegodd nad oedd “esgus dros drais o unrhyw fath" ac fe ailadroddodd fod y llywodraeth yn cefnogi’r heddlu "i gymryd yr holl gamau angenrheidiol i gadw ein strydoedd yn ddiogel”.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref Yvette Cooper y byddai unrhyw un sy’n ymwneud ag “anhrefn annerbyniol” yn wynebu carchar a gwaharddiadau teithio ymhlith cosbau eraill, gan ychwanegu bod lleoedd “digonol” mewn carchardai ar gael.
“Does dim lle i drais ac anhrefn troseddol ar strydoedd Prydain,” meddai.
Cafodd 14 o bobl eu harestio ym Mryste, 20 yn Hull a mwy na 20 yn Blackpool.
Llun: PA