Cymry yn hawlio medalau aur ac efydd yn y rhwyfo ym Mharis
Mae’r rhwyfwyr o Gymru Harry Brightmore ac Eve Stewart wedi ennill medalau aur ac efydd yn y rhwyfo wyth i ddynion a menywod yn y Gemau Olympaidd ym Mharis.
Harry Brightmore oedd y llywiwr i dîm wyth dyn Prydain Fawr wrth i'r pencampwyr y byd gipio'r teitl Olympaidd, gan guro’r Iseldiroedd a’r Unol Daleithiau.
Daeth y fuddugoliaeth 20 munud yn unig ar ôl i wyth y merched gipio’r efydd gydag Eve Stewart yn eu plith.
Ganed Eve Stewart yn yr Iseldiroedd ond cynrychiolodd ei mam, sy’n Gymraes, ei gwlad mewn pêl-rwyd.
Yn wreiddiol, rhwyfodd Eve dros yr Iseldiroedd ond erbyn hyn mae'n cynrychioli Prydain Fawr.
Fe orffennodd Prydain y tu ôl i bencampwyr y byd Rwmania a Chanada.
Llun: PA