Newyddion S4C

Dewis Kamala Harris yn ffurfiol fel enwebai'r Democratiaid yn yr Unol Daleithiau

Kamala Harris

Mae Is-lywydd yr Unol Daleithiau Kamala Harris wedi derbyn enwebiad arlywyddol y Democratiaid mewn pleidlais o gynrychiolwyr y blaid.

Dywedodd Ms Harris ei bod yn “anrhydedd i fod yn enwebai tybiedig” wrth i’r bleidlais rhithiol barhau cyn y Confensiwn Cenedlaethol Democrataidd (DNC) yn Chicago yn ddiweddarach y mis hwn.

Ms Harris yw'r ddynes ddu gyntaf a'r fenyw gyntaf o Dde Asia i sefyll ar ran plaid wleidyddol fawr yn yr Unol Daleithiau.

Os bydd hi'n trechu Donald Trump, yr enwebai Gweriniaethol, ym mis Tachwedd, hi fyddai arlywydd benywaidd cyntaf America.

Rhedodd yn ddiwrthwynebiad yn etholiad rhithiol y blaid ar ôl i’r Arlywydd Joe Biden gamu o’r neilltu fis diwethaf a’i chymeradwyo.

Fe ddilynodd nifer o gystadleuwyr posibl ei arweiniad. 

Brynhawn ddydd Gwener, fe wnaeth Ms Harris sicrhau cefnogaeth 2,350 o gynrychiolwyr, y trothwy sydd ei angen i ennill yr enwebiad.

Nid yw’r broses bleidleisio ar-lein yn dod i ben tan ddydd Llun ond mae hi eisoes wedi pasio’r trothwy hwnnw, medd ei thîm.

Llun: Wochit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.