'Sefyllfa dorcalonnus': Ymgyrch codi arian i ddod â phlant o Balestina i Ben Llŷn
'Sefyllfa dorcalonnus': Ymgyrch codi arian i ddod â phlant o Balestina i Ben Llŷn
Mae grŵp o bobl yng ngogledd Cymru yn codi arian i ddod â phlant o Balestina i Ben Llŷn.
Bwriad yr ymgyrch yw gwahodd 11 o blant a thair menyw o’r Llain Orllewinol, sef tiriogaeth o dan feddiannaeth filwrol gan Israel, i Nant Gwrtheyrn am 10 diwrnod ym mis Medi.
Daeth y syniad gan Richard Hughes, ffermwr o Lwyndyrys ger Pwllheli, wedi iddo gysylltu ag Undeb Amaethwyr Palestina yn sgil pryderon am y sefyllfa yno.
“Fel ffermwyr yng Nghymru, ‘da ni’n gwybod bod pethau’n ddrwg arno ni ond mae’n waeth ar bobl eraill yn aml iawn - ac ar y Llain Orllewinol, mae’n ddifrifol iawn,” meddai.
Yn dilyn sgwrs gyda Rula Khateeb, swyddog y wasg yr undeb, fe gafodd Richard y syniad o wahodd rhai o blant o deuluoedd amaethyddol y llain i Gymru.
“Odda ni’n meddwl sa fo’n syniad da i’r plant gael dod draw, felly natho ni wahodd criw o blant - y nifer mwyaf ‘sa ni’n gallu cario mewn bws mini - i ddod i aros efo ni,” meddai.
“Da ni’n gobeithio y byddai’n llesol iddyn nhw ddwad i le heddwch.”
Mae’r prosiect yn cael ei gefnogi gan yr Aelodau Seneddol lleol, Liz Saville Roberts a Mabon ap Gwynfor; arweinydd Cyngor Gwynedd, Dyfrig Siencyn; cadeirydd Parc Cenedlaethol Eryri, Tim Jones; a chadeirydd cangen Sir Gaernarfon o Undeb Amaethwyr Cymru, Glyn Roberts.
Hefyd yn cefnogi'r prosiect mae Eglwysi Chwilog, Pencae a Llwyndyrys; Cymdeithas y Cymod; Canolfan Nant Gwrtheyrn; a Chlwb Ffermwyr Ifanc Eryri.
‘Torcalonnus’
Fe wnaeth y rhyfel Israel-Gaza ddechrau ar ôl i’r grŵp milwraethus Hamas groesi’r ffin ar 7 Hydref, gan ladd 1,200 o Israeliaid a chymryd mwy na 200 o bobl yn wystlon.
Ers hynny, mae’r tensiynau rhwng Israel a thiriogaethau Palesteinaidd sydd wedi’u meddiannu gan Israel wedi cynyddu’n sylweddol.
Yn y Llain Orllewinol, mae 521 o Balesteiniaid - 126 ohonyn nhw’n blant - wedi eu lladd gan luoedd Israel rhwng mis Hydref a mis Mehefin, meddai'r Cenhedloedd Unedig
Mae trigolion y llain yn wynebu cyrchoedd a thrais dyddiol gan luoedd Israel, gyda rhai o ymsefydlwyr Israel yn dwyn eu cartrefi a’u tir.
Mae swyddogion Israel wedi dweud bod y gormes yn angenrheidiol i gadw Israeliaid yn ddiogel a rhwystro trais pellach sy’n cael ei gynllunio gan Hamas
ac eithafwyr ar y Llain Orllewinol. Mae’r rhai sy’n cael eu cadw yn y ddalfa yn arweinwyr Hamas neu’n cynllunio ymosodiadau, medden nhw.
Ond mae cyrff anllywodraethol yn anghytuno gyda hyn, gan ddweud bod nifer o’r bobl sydd wedi’u harestio yn ddieuog.
Dywedodd Dr Gwyn Williams o Gapel Siloh, Chwilog, bod y sefyllfa yn “dorcalonnus”.
“Mae llawer iawn o’r plant yn cael eu rhoi yn y carchar am fawr ddim rheswm o gwbl ac yn cael eu camdrin. Plant mor ifanc â saith oed yn cael eu harestio,” meddai.
“Does dim modd cael plant allan o Gaza, ond oeddan ni’n meddwl y gallen ni gynorthwyo rhai o’r plant ar y Llain Orllewinol.”
Mae'r trefnwyr yn cydnabod mai nifer cyfyngedig o blant fyddai’n cael dod i Gymru, ond maen nhw’n argyhoeddedig y byddai’r ymweliad yn llesol iddyn nhw.
“Dw i’n gobeithio y cawn nhw ryddhad o fod mewn lle nad ydyn nhw’n gweld byddin yn y pentrefi a’r trefi, achos dydyn nhw heb arfer peidio gweld pobl efo gynnau bob diwrnod,” meddai Richard.
“Hyd yn oed pan maen nhw adre, mae’r drws yn gallu cael ei agor unrhyw adeg ac yn cerdded i mewn mae milwr neu ddau neu dri efo gynnau yn chwilio trwy eu teganau nhw.”
Yn ystod eu hymweliad, mae Richard yn awyddus i’r plant gael dod i adnabod Cymru a phlant Cymru.
“Bydde nhw’n cael dod i adnabod Cymru a phlant Cymru, ella y cawn nhw fynd i ysgol am ryw 'chydig oriau,” meddai.
“Dw i’n gobeithio y cawn nhw fynd i lan y môr - mi fydd hynny yn beth newydd iddyn nhw dw i’n meddwl. Dw i hefyd yn gobeithio y cawn nhw fynd i weld pethau pwysig yma yng Nghymru, fel yr hen amgueddfeydd, ein capeli a’n heglwysi ni, a Thre’r Ceiri.”
Ychwanegodd: “Mae’n bwysig iawn bod nhw’n gweld ein diwylliant ni ac yn clywed ein hiaith. A dw i ‘sio nhw fwynhau eu hunain - dim dod i gael gwers hanes, ond i fwynhau eu hunain.”
Ar hyn o bryd, mae’r trefnwyr yn disgwyl cadarnhad a fydd Llywodraeth Prydain yn caniatáu fisas i’r plant - ond mae’r ymgyrch codi arian i ddod â nhw i Gymru eisoes yn mynd rhagddo.
Mae’r trefnwyr wedi lansio tudalen JustGiving gyda tharged cychwynnol o £5,000, ac mae'r ymgyrch eisoes wedi codi dros £1,600.
Dros yr wythnos nesaf, y bwriad yw tynnu sylw’r rhai sy’n ymweld â’r Eisteddfod at y prosiect.
“Mae'n bwysig i ni adeiladu pontydd rhwng gwledydd, rhwng pobl â’i gilydd,” meddai Richard.
“Mae’n bwysig ein bod ni i gyd yn byw mewn heddwch.”