Newyddion S4C

'Pwysig bod y gymuned yn elwa' meddai Cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod

Helen Prosser

Mae Cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod wedi dweud ei bod hi’n gobeithio y bydd pobl yn aros yn yr ardal a gweld beth sydd ganddi i’w gynnig wrth i Bontypridd gynnal yr ŵyl eleni.

Mae hanes cyfoethog i’r Eisteddfod yn yr ardal; o’r Eisteddfod Genedlaethol gyntaf ar ei ffurf bresennol yn Aberdâr yn 1861 i wyliau Aberpennar, Treorci a Phontypridd. 

Ond dyma’r Eisteddfod Genedlaethol gyntaf yn yr ardal ers 1956, a dywedodd Helen Prosser ei bod yn bwysig iawn bod “ein cymunedau yn elwa” o gynnal yr ŵyl.

“Dwi wedi bod yn mynd i’r Eisteddfod bob blwyddyn ers yr ’80au ac wedi dod i adnabod ardaloedd fyddwn i byth wedi ymweld â nhw heblaw am yr Eisteddfod,” meddai.

“Rydw i’n apelio i bobl ddod atom i aros yn ystod yr Eisteddfod.

“Rydyn ni’n gwybod fod Caerdydd yn agos ond dewch atom ni i fwynhau’r golygfeydd, y teithiau cerdded a’r atyniadau sydd gyda ni. 

“Mae’r cyngor sir wedi gwarantu y bydd digon o drafnidiaeth gyhoeddus i gludo pobl yn ôl i’w llety yn ystod yr Eisteddfod ac mae’n bwysig iawn i ni fod pobl yn aros ar y Maes ac yn cefnogi’r digwyddiadau yn ein hardal ni.”

‘Cyfle anferthol’

Dywedodd Helen Prosser ei bod hefyd eisiau manteisio ar y brwdfrydedd a’r gefnogaeth mae’r ŵyl yn ei fwynhau eisoes yn Rhondda Cynon Taf i ddod â’r Gymraeg yn ôl i’r cymoedd.

“Does neb dan 70 oed yn cofio’r Eisteddfod yn yr ardal a does erioed Eisteddfod Genedlaethol wedi ei chynnal yn sir Rhondda Cynon Taf, ac mae’n hen bryd,”  meddai Helen Prosser.

“Mae’r bwrlwm wedi bod yn cynyddu dros y cyfnod. Dwi’n gallu gwneud rhywbeth yn y Gymraeg pob noson o’r wythnos os dwi eisiau. 

“Felly’r gwaddol i ni yw cael mwy o bobl yn llawn o’r bwrlwm hwnnw a’n bod ni’n denu mwy o bobl i ddysgu Cymraeg a denu mwy o bobl yn ôl i’r Gymraeg. 

“Mae miloedd o bobl erbyn hyn wedi bod drwy ysgolion cyfrwng Cymraeg sydd ddim bellach yn defnyddio’r Gymraeg. 

“Mae’r Eisteddfod yn gyfle anferthol i’r bobl hyn weld beth sy’n digwydd yn Gymraeg a deall fod yr iaith yn berthnasol iddyn nhw. 

“Dyna fydd y gwaddol, nid mwy o bobl yn siarad yr iaith ond mwy o bobl yn mynychu’r gweithgareddau. 

“Ar hyn o bryd glywch ddim llawer o Gymraeg yn naturiol ar y stryd. 

“Ond mae gan gymaint o bobl ddealltwriaeth o’r iaith a hynny dim ond mymryn dan y wyneb ac wrth i chi ddechrau siarad â nhw, mae’r Gymraeg yn dod nôl.”

Fel Cyfarwyddwr Strategol y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol mae Helen yn ymwybodol o’r heriau sy’n wynebu’r Eisteddfod ac asiantaethau eraill i hybu’r Gymraeg yn yr ardal. 

“Dwi’n byw yn Nhonyrefail a dwi’n cyfarfod pobl yn y stryd, pobl ddi-Gymraeg sy’n edrych ymlaen cymaint at yr Eisteddfod,” meddai.

“Dywedodd un wrtha’ i’n ddiweddar, ‘Helen, this is just what we need, we need an event like this to put the Welsh language at the centre of things’. 

“Mae’n hyfryd clywed hynny er ein bod yn ymwybodol, wrth gwrs, bod heriau a dim traddodiad Eisteddfodol yma.

“Fe fydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal ym Mhontypridd ac mae’n mynd i fod yn anodd i bobl osgoi’r ŵyl.

“Fe fydd hi’n cynyddu poblogaeth y dref yn sylweddol.”

‘Anhygoel’

Mae trigolion ar draws y tri chwm wedi bod yn brysur yn codi arian a threfnu pob math o ddigwyddiadau i ddathlu dyfodiad yr Eisteddfod a chodi ymwybyddiaeth. 

“Mae ’na rywbeth wedi bod yn digwydd rywle yn y tri chwm bron bob noson am fisoedd,” meddai Helen Prosser. 

“Mae’r peth yn anhygoel, gyda’r cyfan yn cael eu cynnal yn y Gymraeg neu’n ddwyieithog. 

“Mae ’na gymysgedd hyfryd o weithgareddau wedi’u cynnal, o’r traddodiadol i’r swreal - glywsoch chi erioed am noson bingo yng nghwmni Elvis? Wel, roedd hi’n dipyn o noson! 

“Ein prif neges yw bod yr Eisteddfod yn perthyn i ni i gyd, yn eisteddfodwyr selog neu os ydyn ni’n chwilfrydig am yr hyn sy’n dod i Rhondda Cynon Taf eleni. 

“Rydyn ni eisiau i bawb gymryd rhan, yn ddysgwyr Cymraeg, yn siaradwyr Cymraeg hyderus, a phawb sydd wedi colli cysylltiad â’n hiaith ers ysgol neu sydd erioed wedi cael y cyfle i ddysgu.

“Ac mae ’na groeso twymgalon i bawb sy’n dod atom ac addewid o wythnos i’w chofio a’i thrysori am byth.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.