
Y Goron: Yr ardal a’r anthem yn ysbrydoli cynllunydd ifanc
Treftadaeth gyfoethog tref Pontypridd sydd wedi ysbrydoli cynllun Coron yr Eisteddfod eleni, gyda nodweddion Hen Bont Pontypridd yn asio gyda phatrwm nodau yr anthem genedlaethol.
Os oes teilyngdod, bydd y Goron yn cael ei chyflwyno i’r bardd buddugol mewn seremoni am 16.00 ar ddydd Llun yr Eisteddfod.
Cyflwynodd y cynllunydd ifanc, Elan Rhys Rowlands, ei chais i greu’r Goron yn fuan ar ôl iddi ddechrau gweithio i gwmni Neil Rayment ym Mae Caerdydd.
Mae hi wedi gweithio’n agos gyda Neil ei hun ar hyd y daith gyffrous a fydd yn cyrraedd uchafbwynt ddydd Llun, yn seremoni’r Coroni ar lwyfan y Pafiliwn.
“Mae’n fraint cael bod yn rhan o rywbeth mor fawr â’r Eisteddfod sydd wrth wraidd ein hanes ni fel cenedl,” meddai.
“Ac mae’r profiad o greu’r Goron wedi bod yn wirioneddol wych.
“Roedd dathliad treftadaeth y dref a’i phwysigrwydd yn hanes yr iaith a’n diwylliant yn rhan greiddiol o’r prosiect.
“Rydw i’n gobeithio y bydd pobl yn hoffi’r ffordd rydyn ni wedi ymgorffori’r anthem i mewn i’r cynllun gan ddefnyddio tonnau sain i blethu hanes cerddorol yr ardal i mewn i’r Goron.”

‘Cyffro’
Dechreuodd diddordeb Elan mewn celf a chreu yn ifanc iawn. Pan ym mlwyddyn 9 yn Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon, enillodd gystadleuaeth creu gemwaith blwyddyn 7-9 yn Eisteddfod yr Urdd.
Ar ôl hynny, penderfynodd astudio celf TGAU ac wedyn Lefel A.
Roedd hi'n eithaf sicr mai dyma oedd ei hangerdd ac aeth ati i astudio cwrs sylfaen mewn celf cyn cwblhau gradd mewn cynllunio gemwaith yn Birmingham. Yn ystod ei chyfnod yn y coleg bu’n gweithio ar brosiect am chwedlau Cymraeg.
Seiliodd ei gwaith ar y Mabinogi a llên gwerin Cymru gyda’r wlad ei hun yn ei hysbrydoli hefyd.
Symudodd Elan i Gaerdydd fis Medi’r llynedd i ddechrau ar ei swydd gyda Neil Rayment ac ers hynny mae wedi bod yn brysur yn creu casgliad o emwaith Santes Dwynwen. Erbyn yr Eisteddfod bydd casgliad newydd arbennig iawn ar werth.
“Rydyn ni wedi defnyddio rhai o’r ‘off-cuts’ o’r Goron i greu casgliad o emwaith unigryw, sy’n cynnwys modrwyau, clustdlysau a mwclis, a bydd y rhain ar werth ar stondin Neil Rayment ar y Maes ym Mhontypridd ym mis Awst,” meddai.
“Mae’r casgliad yma’n ychwanegu at y cyffro rydyn ni’n ei deimlo am gael bod yn rhan o’r Eisteddfod eleni.”

‘Cyfrifoldeb’
Crëwyd y Goron gyda darnau bychan o arian pur wedi’u gosod fel tonnau gyda’r bwriad o blethu hanes cerddorol yr ardal i mewn i’r Goron.
Bu’n rhaid i Elan dorri dros 160 darn bach o arian, i greu’r Goron gyda dau ddarn mwy yn creu’r ‘bont’.
Ac mae arian yn ffurfio tonnau sain yn seiliedig ar yr anthem gan greu symffoni weledol.
Drwy seilio’r dyluniad ar yr anthem genedlaethol mae’r Goron yn symboleiddio grym iaith a cherddoriaeth i uno pobl, a thrwy gyfuno hyn gyda’r Hen Bont, sy’n sefyll fel ffigwr canolog ar y Goron, mae’r dyluniad hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd y cysylltiad â thaith.
Nid oes angen unrhyw ddefnydd y tu mewn i’r Goron gan ei bod wedi’i dylunio i fod yn gyfforddus i’w gwisgo.
Gosodwyd teitl yr Eisteddfod ar y bont i angori’r cynllun ac mae’r Nod Cyfrin, symbol Gorsedd Cymru ers cyfnod Iolo Morganwg, yn addurno blaen y Goron gan ymgorffori’r cysylltiad hanesyddol cryf gyda thraddodiad yr Eisteddfod.
'Profiad arbennig'
“Mae’r profiad o gael gweithio ar gynllun Coron yr Eisteddfod Genedlaethol mor gynnar yn fy ngyrfa wedi bod yn gwbl arbennig,” meddai Elan.
“Alla i ddim diolch digon i gwmni Neil Rayment am yr holl gefnogaeth dros y misoedd diwethaf.
“Mae’n gychwyn amhrisiadwy i mi fel prentis i gael dysgu gan grefftwr sydd â 30 mlynedd o brofiad sylweddol yn y diwydiant.
“Mae creu Coron genedlaethol yn dipyn o gyfrifoldeb ac rydw i’n ddiolchgar iawn i bawb am yr ymateb hyfryd ers iddi gael ei dadorchuddio.
“Roedd yn braf hefyd cael cyfarfod rhai o ddisgyblion Ysgol Garth Olwg, sydd wedi noddi’r Goron, i sôn am y cynllun, y technegau a’r gwaith o greu Coron ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol.
“Fe fydda i’n edrych ymlaen yn eiddgar at yr wythnos, ac at y seremoni’n enwedig. Alla i ddim disgwyl i weld os y bydd ’na enillydd, a gweld y Goron wedi’i gosod ar ben y bardd buddugol.
“Bydd hyn yn sicr o roi gwefr i mi a’r tîm sydd wedi bod wrthi’n gweithio ar y prosiect anhygoel hwn.”