'Sbesial': Menyw yn cael ei hurddo i'r Orsedd ar ôl cael trawsblaniad aren
'Sbesial': Menyw yn cael ei hurddo i'r Orsedd ar ôl cael trawsblaniad aren
Wrth i seremonïau'r Eisteddfod Genedlaethol ddechrau ym Mharc Ynysangharad ddydd Llun, un sydd yn hynod o ddiolchgar o gael ei hurddo i’r Orsedd yw Sinead Harris o Gwm Cynon.
Ond mae wedi bod yn daith hir i’r fenyw o Abercynon wedi iddi ddioddef cyfnod o salwch difrifol.
Cafodd Sinead ddiagnosis o glefyd yr aren yn 2020, ac roedd yn rhaid iddi dreulio cyfnod yn yr ysbyty adeg y pandemig.
“Dechrau 2020 o’n i jyst o hyd, o hyd, o hyd yn teimlo’n ‘di blino trwy’r amser. O’n i jyst ‘di blino cymaint ag o’n i’n cael pen tost a migraines uffernol ag ‘odd hyn reit yng nghanol Covid.
“O’n i ar furlough o’r gwaith, yn ar fin droi’n 30, so ‘odd lot yn mynd ‘mlaen yn bywyd ar y pryd,” meddai wrth siarad â Newyddion S4C.
Tair blynedd yn ddiweddarach, fe ymunodd Sinead â’r rhestr aros er mwyn iddi gael trawsblaniad yr aren.
Ac o fewn chwe mis yn unig, ar 9 Ionawr 2023, fe gafodd Sinead trawsblaniad gan roddwr byw – sef ei hewythr, Gareth James.
Does dim modd gwella o’i chyflwr ac fe fydd Sinead yn byw gyda chlefyd yr aren am weddill ei hoes. Er hynny mae’n “hynod o ddiolchgar” i’w hewythr ac mae ei symptomau wedi lleddfu yn dilyn y trawsblaniad.
“Dwi’n cyfri’n hun hynod, hynod o lwcus. ‘Nes i ddim gorfod cael dialysis… O’n i ond ‘di bod ar y transplant list chwech mis, o’n i’n hynod o lwcus.
“Oedd wncwl fi yn fodlon cael ei testio i fod yn match felly ges i live donor gan wncwl fi.
“Allai erioed dweud diolch digon, fydd diolch byth yn digon,” meddai.
'Sbesial'
Fe ddatblygodd Sinead Harris ei chariad tuag at yr iaith Gymraeg yn ystod ei chyfnod fel myfyrwraig ym Mhrifysgol Aberystwyth, wedi iddi ddewis astudio ei gradd Drama a Theatr drwy gyfrwng y Gymraeg.
A hithau bellach yn gweithio i fudiad Urdd Gobaith Cymru, fe wnaeth Sinead cais i gael ei hanrhydeddu drwy’r brifysgol.
Roedd disgwyl iddi gael ei hurddo i’r Orsedd cyn i’r Eisteddfod Genedlaethol gael ei gohirio am gyfnod o ddwy flynedd oherwydd Covid-19 yn 2020. Wedi hynny, roedd disgwyl iddi gael ei hanrhydeddu yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Tregaron 2022.
Ond wedi iddi gael gwybod y byddai’r Brifwyl yn cael ei chynnal ar ei “stepen drws” yn Rhondda Cynon Taf yn 2024, fe benderfynodd Sinead ohirio’r seremoni unwaith yn rhagor.
“Unwaith ‘nathon nhw dweud bod e’n dod i RCT o’n i fel, ‘Byse’ hwnna lot mwy sbesial i fi.’”
'Newid byd'
Cafodd ei magu gan deulu di-Gymraeg “mewn ardal ddi-Gymraeg" ond mae defnyddio’r iaith yn ddyddiol bellach wedi bod yn “newid byd” iddi, meddai.
“Yn yr ysgol, tan o’n i yn flwyddyn 12 falle, o’n i ddim wir yn cymryd pob cyfle fel y mai felly i ‘neud stwff yn y Gymraeg.
“Ond es i i’r prifysgol yn Aberystwyth a ges i’r fraint a’r pethau gorau i fi oedd es i i fyw ym Mhantycelyn yn y blwyddyn cynta’ ac ‘odd hwnna i fi yn newid byd.”
Mae bellach yn falch fod yr Eisteddfod yn cael ei chynnal yn Rhondda Cynon Taf er mwyn hyrwyddo’r iaith yn ei hardal leol.
“Fi ‘di bod i ychydig o ddigwyddiadau a gweld pobl newydd yn gyfan gwbl yn dod i’r digwyddiadau yma.
“Mae braf i weld mwy o bobl falle byse’ ddim gyda cymaint o ddiddordeb yn y Gymraeg yn cymryd rhan mewn pethau newydd.”