Lluniau o'r Eisteddfod: Datgelu enillwyr gwobrau y Lle Celf eleni
Gwaith anferthol newydd gof gan artist metel sydd wedi ei ddyfarnu'n enillydd y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024.
Bydd Angharad Pearce Jones yn derbyn y Fedal a'r wobr ariannol mewn seremoni ar Faes yr Eisteddfod ym Mhontypridd ar ddiwrnod agoriadol yr Ŵyl.
Daw wrth i’r Eisteddfod ddatgelu pwy sydd wedi ennill eu gwobrau celfyddyd, crefft a dylunio a phensaerniaeth ddydd Sadwrn.
Enillwyr y prif wobrau yw:
- Angharad Pearce Jones yn ennill y fedal aur am gelfyddyd gain
- Laura Thomas yw enillydd y fedal aur am grefft a dylunio
- Studio Brassica sy’n ennill y fedal aur am bensaernïaeth
- Elena Crace sy’n ennill Ysgoloriaeth Artist Ifanc yr Eisteddfod
Dywedodd Angharad, sy'n byw gyda'i theulu ym Mrynaman, ei bod wrth ei bodd yn ennill y wobr ym Mhontypridd.
"Rwyf wedi ymwneud a'r Eisteddfod Genedlaethol ers chwarter canrif,” meddai.
“Dwi wedi arddangos yn y Lle Celf sawl gwaith, wedi bod yn ddetholwr a chadeirydd ac wedi cael y fraint o greu'r Goron ond erioed wedi ennill.
"Ac mae dod i'r brig yn Rhondda Cynon Taf yn fwy arbennig gan fod mam yn dod o Bontypridd ac ar ôl Parc Ynysangharad cefais fy enwi.
“Bûm yn dod i'r dref i weld Nain a Taid ac yn ymweld â'r parc.”
Mae dau ddarn o waith Angharad yn Y Lle Celf ac fe fydd yn sicr yn gosod ymwelwyr ar naill ochr i’r ffens neu’r llall, trwy gyflwyno dewis syml - mynd i mewn i’r oriel trwy’r drws chwith neu dde.
Datblygwyd y gwaith mewn ymateb i ganfyddiad Angharad fod rhaniadau mewn cymdeithas wedi cynyddu yn dilyn refferendwm Brexit yn 2016.
Adeiladwyd y darn yn wreiddiol yn ei chartref yn ystod y cyfnod clo gan hollti trwy fwrdd y gegin a’r ystafell fwyta gyda ffens palisâd.
Daeth pandemig Covid-19 ag ystyr newydd i’r darn, ond dywed Angharad ei fod yn awgrymu unrhyw raniad neu ffin, ac yn codi cymaint o gwestiynau am natur ac effaith dewisiadau personol a gwleidyddol.
"Credaf mai pwrpas celf yw dechrau trafodaeth ac rwy’n sicr bydd y darn hwn, 'Pa ochr o'r ffens wyt ti', yn gwneud hynny," meddai.
Yr ail ddarn yw Pinc. Rhan o ffens sydd wedi ei blygu i adlewyrchu'r bwlch cudd y byddai pobl ifanc yn ei ddefnyddio i gael mynediad, heb dalu, i ganolfan chwaraeon yn ardal Abertawe.
Dywedodd Ffion Rhys, un o'r tri detholwr ar gyfer y gystadleuaeth eleni, am waith Angharad: "Ar yr wyneb mae'n ymddangos yn syml ac yn hawdd cael mynediad iddo - mae'n eich hudo i mewn gyda chrefft, medrusrwydd, 'setiau' sydd wedi'u creu i chi gael ymgolli a chwarae eich rhan ynddynt, a chymysgedd annisgwyl o ddeunyddiau.
"Fy mhrofiad i o'i gwaith yw bod pobl bob amser yn sefyll o'i flaen ac yn siarad - a hynny am y pynciau cymhleth y mae hi'n eu cyflwyno, fel gwleidyddiaeth, diwylliant poblogaidd, mamolaeth, ffeministiaeth, chwant, systemau grym a hunaniaeth y Cymry."
Medal Aur Crefft a Dylunio
Gwehyddes greodd gwaith sy'n dathlu harddwch edafedd yn ei ffurf buraf sydd wedi ennill Y Fedal Aur am Grefft a Dylunio yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024.
Mae Laura Thomas o Ewenni ger Penybont-ar-Ogwr yn artist tecstilau gwehyddu sefydledig, dylunydd a gwneuthurwr sy'n arbenigo mewn cynhyrchu tecstilau anghonfensiynol ar gyfer gofodau cyfoes.
Cyflwynodd chwe darn o waith i'r detholwyr eu hystyried ar gyfer y gystadleuaeth a byddant yn cael eu harddangos yn Y Lle Celf yn ystod yr Eisteddfod.
Wrth ddisgrifio ei gwaith dywedodd: "Mae fy ngwaith yn dathlu harddwch edafedd yw ei ffurf buraf; ei hanfod a'r trosiadau y mae'n eu crynhoi.
"Crëwyd y gweithiau celf â llaw yn reddfol a'u bwriad yw cyflwyno myfyrdod tawel, gweledol; adwaith yn erbyn anhrefn ac ansicrwydd y cyfnod diweddar.
“Mae yma rythmau tyner, cipolwg tu hwnt i’r wyneb a gweadau atgofus i ddal ein chwilfrydedd a thirio ar feddyliau prysur."
Ychwanegodd ei bod wedi gweithio ar y darnau am rai misoedd.
"Mae fy ngwaith yn gywrain a thechnegol,” meddai.
“Rwy'n defnyddio edafedd a phrosesau gwahanol ac mae ambell un o'r rhain yn cymryd amser i'w cwblhau. Cymerodd y darn Cascades ddeufis i'w gwblhau er enghraifft," meddai.
Dywedodd Cecile Johnson Soliz, un o ddetholwyr yr Arddangosfa Agored: "Mae tecstilau Laura Thomas yn wrthrychau syfrdanol o hardd. Mae'r 'edefyn' ei hun yn rhywbeth mor bwysig iddi hi nes ei bod hi'n fy hudo i ailfeddwl am sut rwy'n gweld y pethau symlaf.
"Mae golau, natur ac amser wedi'u plethu i'w gweithiau, rhai ohonyn nhw'n cymryd misoedd i'w creu. Mae hi'n enillydd haeddiannol o'r Fedal Aur am Grefft a Dylunio."
Medal Aur am Bensaerniaeth
Mae trosi bloc stablau celf a chrefft yn gartref i deulu aml-genhedlaeth estynedig wedi ennill y Fedal Aur am Bensaernïaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Bu'r penseiri Claire Priest a Ben Crawley o Studio Brassica yn gweithio ar y prosiect ym Mhlas Hendy ger Rhaglan, Sir Fynwy am ddwy flynedd.
Effeithiodd pandemig Covid-19 ar y prosiect gyda phrinder deunyddiau a bu rhaid aros i wyau ffesant ddodwyd wrth yml y safle ddeor cyn parhau a'r gwaith.
Dywedodd y ddau gyn-fyfyriwr o Ysgol Pensaernïaeth Cymru, rhan o Brifysgol Caerdydd, eu bod wrth eu bodd yn ennill y wobr hon, y diweddaraf i'w ychwanegu at eu casgliad o wobrwyon sy'n deillio o'r prosiect.
Dyma'r tro cyntaf i'r cwmni, sefydlwyd yn Llundain yn 2019, gyflwyno gwaith i'r Eisteddfod Genedlaethol.
"Rydym wedi ein syfrdanu braidd, nid yw'n rhywbeth yr oeddem yn ei ddisgwyl o gwbl ac rydym yn gyffrous iawn ac yn edrych ymlaen at weld ein gwaith yn yr arddangosfa yn yr Eisteddfod," meddai Claire.
Dyfernir y fedal gan yr Eisteddfod Genedlaethol ar y cyd â Chymdeithas Frenhinol Penseiri Cymru a Chomisiwn Dylunio Cymru.
Nod y wobr yw tynnu sylw at bwysigrwydd pensaernïaeth yn niwylliant y genedl ac anrhydeddu penseiri sy'n cyrraedd y safonau dylunio uchaf.
Rhoddir y wobr i'r pensaer neu benseiri sydd yn gyfrifol am adeilad neu grŵp o adeiladau a gwblhawyd yng Nghymru yn y tair blynedd blaenorol.
Roedd y prosiect yn cynnwys adnewyddu ac ymestyn bloc stablau rhestredig Gradd II. Wedi'i adeiladu ym 1906 gan Charles a Molly Crawley, perthyn i Ben, roedd yr adeilad gwreiddiol yn cynnwys ystafell offer, llofft wair a cherbyty.
Dywedodd Ben: "Fel grŵp teuluol aml-genhedlaeth estynedig roedd angen am fwy o lety wedi ysgogi'r gwaith o adnewyddu'r bloc stablau. Roedd y briff hefyd yn gofyn am hyblygrwydd i'r grwpiau teulu a fyddai'n aros ac yn cyfnewid am gyfnodau hir o amser."
Ysgoloriaeth Artist Ifanc
Mae portffolio o baentiadau a ysbrydolwyd gan eitemau a adawyd yn ystafelloedd tŷ ei diweddar nain wedi ennill yr Ysgoloriaeth Artist Ifanc i Elena Grace o Gaerdydd.
Cyflwynodd Elena bortffolio o baentiadau mewn olew i'r detholwyr eu hystyried ar gyfer yr Ysgoloriaeth.
Dywedodd fod y paentiadau o bethau pob dydd yn adrodd stori y tu hwnt i ffrâm y llun.
"Mae'r lluniau'n adlewyrchu'r adeg pan symudais i dŷ fy nain wedi iddi farw a sut y bu i'r pethau a adawodd ar ei hôl fagu arwyddocâd.
"Mae'r paentiadau'n cynnwys isleisiau llwyd tawel a thechnegau brwsio meddal mewn olew, gan gyfeirio at ffotograffau personol a rhai a ddarganfuwyd.
"Trwy beintio rwy'n ystyried fy sentimentaliaeth o leoliadau ac eiddo cyfarwydd. Chwilio am atgofion yn y mannau domestig cyffredin hyn. Meddwl amdanyn nhw fel ‘mannau tawel’ – golygfeydd cyffredin bob dydd, disylw.
"Rwy'n tynnu pobl sy'n cael sylw yn y cyfeiriadau ond yn ceisio cynnwys delweddau fel cadeiriau, llyfrau agored, mygiau - gwrthrychau rhyngweithiol sy'n rhoi synnwyr o bresenoldeb - sy'n nodi bod person newydd adael y ffrâm. Mae’r amwysedd hwn mewn bywyd yn adeiladu naratif y tu ôl i’r gwaith sy’n tynnu ar themâu’r cof ac ymlyniad at le."
Dywedodd un o'r detholwyr, Ffion Rhys, am waith yr arlunydd, "Mae ei phaentiadau'n bortreadau sensitif hardd o olygfeydd domestig tawel, a'i dewis o balet o liwiau llwyd cynnes distaw yn creu llonyddwch synfyfyriol a lle i feddwl.
“Mae hi'n darlunio corneli ystafelloedd, cyrtiau tennis gwag, sinciau ymolchi, byrddau a chadeiriau yn yr ardd, mẁg, a llyfr agored ar fwrdd, fel petai rhywun newydd ymadael.”
Sefydlwyd yr ysgoloriaeth er mwyn hybu celf a chrefft yng Nghymru. Dyfernir yr ysgoloriaeth i'r ymgeisydd mwyaf addawol er mwyn ei galluogi i ddilyn cwrs mewn ysgol neu goleg celf a dylunio cydnabyddedig neu fynychu dosbarthiadau meistr. Mae'r ysgoloriaeth yn agored i'r sawl dan 25 oed.
Mae Elena yn benderfynol o wneud enw iddi hi'i hun. Graddiodd gyda gradd BA dosbarth cyntaf mewn Celfyddyd Gain o Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd, rhan o Brifysgol Metropolitan y ddinas, ddwy flynedd yn ôl.
"Rwy’n gobeithio dilyn cwrs gradd meistr yn Llundain y flwyddyn nesaf ac fe fydd yr ysgoloriaeth yn mynd tuag at y ffioedd hynny,” meddai.
Eleni yw'r tro cyntaf i Elena gyflwyno gwaith i'r Eisteddfod Genedlaethol ac ychwanegodd fod hynny wedi bod yn uchelgais iddi ers blynyddoedd.
"Roedd Mam a Nain yn cymryd diddordeb yn yr Eisteddfod ac rwyf wedi bod yn Y Lle Celf sawl gwaith, mae'n ddigwyddiad cyffrous," meddai.