Dyn wedi marw ar ôl gwrthdrawiad rhwng car a lori yn ne Cymru
02/08/2024
Mae dyn wedi marw ar ôl gwrthdrawiad rhwng car a lori yn ne Cymru.
Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i adroddiadau o wrthdrawiad rhwng car a lori ar yr A473 yn Efail Isaf am 09:55 ddydd Iau.
Y ffordd yw'r brif heol rhwng Pen-y-bont ar Ogwr a Phontypridd.
Dywedodd y llu bod dyn 50 oed wedi marw o ganlyniad i'r gwrthdrawiad.
Mae teulu'r dyn wedi cael gwybod ac yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.
Ychwanegodd yr heddlu bod ymchwiliad i achos y gwrthdrawiad yn parhau.
Llun: Google