Newyddion S4C

Pry-d blasus? Gwyddonwyr o Gymru'n mesur ymateb pobl i fwyta bwyd sy'n cynnwys pryfed

Salad criced

Mae gwyddonwyr o Gymru yn arbrofi sut mae pobl yn ymateb i fwyta bwydydd â phryfed ynddyn nhw fel rhan o ymchwil i brotein gwyrddach.

Mewn nifer o wledydd ar draws y byd yn bwyta pryfed fel rhan gyffredin o ddiet bob dydd, gan gynnwys Mecsico, Tsiena a Ghana.

Ym Mhrifysgol Aberystwyth mae astudiaeth newydd yn mesur parodrwydd pobl i fwyta bwydydd sydd yn cynnwys rhannau o bryfed.

Dengys ymchwil fod tua 30% o bobl sy'n byw yng ngwledydd yr Undeb Ewropeaidd yn fodlon bwyta bwyd sydd yn cynnwys pryfed.

Edrychodd y sesiynau blasu diweddaraf yn y brifysgol ar ymateb pobl i fwyta brownis siocled gyda, a heb, flawd criced ynddyn nhw.

'Blasu'r gwahaniaeth?'

Dywedodd Yr Athro Alison Kingston-Smith, o Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth bod bwyta pryfed yn gallu gwella iechyd pobl.

“Gyda phoblogaeth sy’n cynyddu, mae angen rhagor o ffynonellau bwyd cynaliadwy ar y byd. Gallai pryfed fod yn un o’r rheina. 

"Mae ein profion diweddaraf yn ceisio profi ansawdd, ymwybyddiaeth a pharodrwydd y cyhoedd i dderbyn brownis sydd wedi cael eu pobi â blawd criced – ydy ni’n gallu blasu'r gwahaniaeth mewn gwirionedd?

Image
Pryfed yn cael eu magu ym Mhrifysgol Aberystwyth
Pryfed yn cael eu magu ym Mhrifysgol Aberystwyth. Llun: Prifysgol Aberystwyth

“Mae hwn yn bwysig achos gallai ychwanegu blawd wedi’i seilio ar bryfed ddod â buddion sylweddol - disodli protein llai cynaliadwy sy’n cael ei fewnforio, cynnig incwm newydd i ffermwyr a gwella iechyd pobl.”

“Mae pryfed yn cynnig cyfle i amaethyddiaeth a’r sector bwyd i arallgyfeirio er mwyn cael mynediad at farchnadoedd newydd. 

"Does dim amheuaeth bod protein pryfed yn derbyn sylw cynyddol yn y sector bwyd, a bydd ein hymchwilwyr yn rhan o’r datblygiadau cyffrous hynny.”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.