Teyrngedau i Dewi Lake - 'y prifathro gorau erioed'
02/08/2024
Mae teyrngedau wedi eu rhoi yn dilyn marwolaeth cyn-bennaeth ysgol o Wynedd sydd wedi ei ddisgfrifio fel y "prifathro gorau erioed."
Roedd Dewi Lake yn bennaeth ar Ysgol y Moelwyn ym Mlaenau Ffestiniog am ddegawdau.
Bu farw ar 25 Gorffennaf yn Ysbyty Gwynedd.
Yn dilyn ei farwolaeth, dywedodd Mabon ap Gwynfor, AS Plaid Cymru: "Bydd colled mawr ar ôl Dewi.
"Gwnaeth gymaint i sicrhau fod plant a phobl ifanc yn cael y cyfle gorau mewn bywyd, gan wthio addysg ymlaen, sicrhau fod y Gymraeg yn iaith fyw ac yn chwarae rhan ym mywydau y bobl ifanc yr oedd yn dylanwadu arnynt mewn modd mor gadarnhaol, a chreu Cymry cyflawn.
"Cydymdeimladau dwysaf â'r teulu oll yn eu galar, ond bydd dathlu bywyd hynod werthfawrogi. Diolch amdano."
Cyfeiriodd at gerdd gan Sion Aled Owen oedd yn deyrnged i Mr Lake:
Athro da ac athro doeth - athro brwd,
athro bro a’i chyfoeth,
athro cyfran o’n trannoeth,
Un arall i roi teyrnged oedd cyn ddisgybl Dewi Lake, Glyn Wise.
Dywedodd mai Mr Lake oedd "Y Prifathro gorau erioed.
"Dyn a ddysgom i garu ein bro ac ein cymdogion ac i fod yn falch i fod yn ddisgyblion Ysgol Y Moelwyn ym Mlaenau Ffestiniog."
Roedd Dewi Lake yn briod gyda Carys, yn dad a thad yng nghyfraith i Dafydd a Llinos, Euros a Llinos, Gutun a Cerys, Cadi ac Owain, a thaid i'w wyrion a'i wyresau Gwydion, Alaw, Elgan, Mali, Osian, Elliw a Tryfan.