Huw Edwards wedi 'camddefnyddio'i rym i feithrin perthnasau am flynyddoedd'
Fe wnaeth y cyn-ddarlledwr Huw Edwards gamddefnyddio'i rym i feithrin perthnasau gyda phobl ifanc am flynyddoedd yn ôl y papur newydd dorrodd y stori wreiddiol amdano'n talu person ifanc am luniau o natur rywiol.
Yn ôl adroddiad gan The Sun ddydd Gwener, roedd Edwards wedi cysylltu gyda phobl ifanc dros gyfnod o chwe blynedd mewn ymgais i feithrin perthynas amhriodol, a hynny ar gyfnodau pan roedd yn darlledu o rai o ddigwyddiadau mawr y dydd.
Plediodd Edwards yn euog i greu delweddau anweddus o blant mewn Llys Ynadon yn Llundain ddydd Mercher.
Roedd wedi'i gyhuddo o dri achos o greu delweddau anweddus o blant, oedd yn cynnwys creu chwe delwedd categori A, sefy y mwyaf difrifol, creu 12 delwedd categori B a chreu 19 delwedd categori C.
Ddydd Iau fe wnaeth yr Ysgrifennydd Diwylliant ofyn i’r BBC ymchwilio i weld a allai hawlio arian o becyn cyflog Huw Edwards yn ôl.
Bu Lisa Nandy yn siarad â chyfarwyddwr cyffredinol y BBC, Tim Davie.
Mae Mr Davie wedi amddiffyn ei benderfyniad i gyflogi’r cyn-ddarlledwr tan fis Ebrill, bum mis ar ôl iddo gael gwybod am arestio Edwards ym mis Tachwedd dros y categori mwyaf difrifol o ddelweddau anweddus o blant.
Fe ddaeth yn amlwg y penwythnos diwethaf bod canllawiau diweddaraf y BBC ar gynnal perthynas yn y gweithle wedi rhybuddio staff bod defnyddio “statws enwogrwydd” i ddylanwadu ar bobl i wneud penderfyniad o’u plaid yn “gamddefnydd o bŵer”.
Mae’r Polisi Rheoli Perthynas Bersonol yn y Gwaith hefyd yn rhoi enghreifftiau i staff o’r hyn i fod yn wyliadwrus ohono gan gynnwys “arwyddion neu dystiolaeth o feithrin perthynas amhriodol”.
Mae’r ddogfen yn cynghori gweithwyr i godi pryderon os ydynt yn clywed am “sïon neu dystiolaeth o berthynas bosibl sy’n cynnwys anghydbwysedd pŵer”, “ymddygiad gorfodol” neu “roddion amhriodol,” a rhoi gwybod amdanynt, neu eu trafod gyda rheolwr llinell.
Prif lun: PA