Cyngor yn amddiffyn ei ymrwymiad i'r Gymraeg yn dilyn beirniadaeth

02/08/2024
Ysgol Pont Siôn Norton

Mae cyngor sir yn ne Cymru wedi amddiffyn ei ymrwymiad i'r Gymraeg yn dilyn beirniadaeth gan Gymdeithas yr Iaith.

Ar drothwy’r Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd, mae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu Cyngor Rhondda Cynon Taf am "ddiffyg twf addysg Gymraeg yn y sir" gan alw ar y cyngor i wneud iawn am “ddegawdau o ddiffyg gweithredu”.

Daw'r feirniadaeth yn dilyn penderfyniad y cyngor i gau Ysgol Pont Siôn Norton yng Nghilfynydd ger Pontypridd.

Ym mis Medi, bydd disgyblion yn teithio i Rydyfelin i gael addysg gynradd Gymraeg.

'Amhosib'

Yn ôl rhiant lleol, Lowri Mared, mae penderfyniad y cyngor i gau Ysgol Pont Siôn Norton yn “siomedig”.

“Wrth wneud y penderfyniad yma, mae’r cyngor wedi diystyru'r sgil-effaith ar yr iaith yn gyfan gwbl,” meddai.

“Bydd rhai plant nawr yn gorfod pasio saith ysgol Saesneg ar y ffordd i'w hysgol Gymraeg agosaf. Bydd ardaloedd Cilfynydd, Glyncoch ac Ynysybwl yn colli’r iaith gan fod y cyngor wedi gwneud addysg Gymraeg yn amhosib i lawer.”

Mewn llythyr agored at y cyngor, dywedodd Catrin Dafydd ar ran Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith bod “hawl teuluoedd i gael addysg Gymraeg ar garreg y drws wedi diflannu dros nos”. 

Roedd y grŵp hefyd yn feirniadol o'r “symudiad annisgwyl a dinistriol” o ymgynghori ar newid cyfrwng iaith Ysgol Gynradd Dolau yn Llanharan ger Pontyclun o un ddwy-ffrwd iaith i ysgol cyfrwng Saesneg.

Yn lle hynny, maen nhw'n galw ar y cyngor i gadw'r ffrwd Gymraeg yn Ysgol Gynradd Dolau a chynyddu darpariaeth Gymraeg yr ysgol gyfan dros amser.

'Ymrwymiad'

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf bod "buddsoddiad diweddar" yn dangos eu "hymrwymiad" tuag at addysg cyfrwng Cymraeg.

“Mae’r Cyngor wedi ymrwymo’n llwyr i addysg cyfrwng Cymraeg, i gyflawni’r canlyniadau a nodir yn ein Cynllun Strategol 10 mlynedd Cymraeg mewn Addysg uchelgeisiol – ac ymrwymiad Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru ei hun. 

"Adlewyrchwyd hyn yn y buddsoddiad diweddar sylweddol mewn cyfleusterau addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer Rhondda Cynon Taf, er bod 26% o gapasiti dros ben yn gyffredinol yn y sector Cyfrwng Cymraeg, mae ein darpariaeth bresennol yn fwy na digon i ateb y galw.

“Yn ddiweddar rydym wedi darparu buddsoddiad ar y cyd o £15.5m yng Nghwm Cynon, i adeiladu adeilad addysgu newydd sbon yn Ysgol Gyfun Rhydywaun ac estyniad sylweddol yn Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr – gan greu cyfleusterau newydd sbon ac, yn bwysicach, cynyddu’r capasiti cyfrwng Cymraeg ar gyfer yr ardal."

Ychwanegodd y llefarydd: “Ein nod yn y dyfodol yw adeiladu ar ein cyflawniadau sylweddol hyd yma – byddwn yn parhau i flaenoriaethu addysg cyfrwng Cymraeg ac yn anelu at sicrhau rhaglen fuddsoddi bellach trwy Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy ar gyfer Llywodraeth Cymru.”


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.