Newyddion S4C

Teulu o Landeilo yn ennill gwobr am eu 'dewrder' mewn rhaglen deledu ar y diciâu

Teulu o Landeilo yn ennill gwobr am eu 'dewrder' mewn rhaglen deledu ar y diciâu

Mae teulu o Gapel Isaac ger Llandeilo wedi ennill gwobr am eu "dewrder" mewn rhaglen deledu ar y diciâu.

Mae Wyn ac Enid Davies, sy'n rhedeg fferm deuluol yng Nghastell Howell, wedi ennill Gwobr Goffa Bob Davies Undeb Amaethwyr Cymru a hynny wedi iddyn nhw wahodd Ffermio i ffilmio'r broses o ddifa chwarter eu buches odro oherwydd y diciâu.

Ers 2020, mae'r teulu wedi colli 180 o wartheg oherwydd y diciâu.

Ar hyn o bryd, mae profion ar gyfer y diciâu yn orfodol ar gyfer pob fferm wartheg er mwyn ceisio rheoli'r clefyd.

Mae'r teulu yma, fel gymaint o rai eraill, yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych eto ar sut mae’r profion yn cael eu cynnal.

Yn dilyn y rhaglen ym mis Ionawr, dywedodd Llywodraeth Cymru nad oedd modd rhoi sylw ar achosion unigol ond eu bod yn “ymwybodol iawn” o “effaith ddifrifol TB buchol ar iechyd a lles ffermwyr a'u teuluoedd”.

Mae Gwobr Goffa Bob Davies wedi ei chreu er cof am gyn-ohebydd Cymru Farmers’ Weekly, ac yn cael ei chynnig i unigolyn neu grŵp sydd wedi codi proffil cyhoeddus ffermio yng Nghymru.

'Helpu eraill i deimlo'n llai unig'

Dywedodd Ms Davies: “Y gobaith, trwy rannu ein stori, oedd y gallai helpu rhywun arall. 

“Ni fyddem yn dymuno i unrhyw un fynd trwy’r hyn yr ydym wedi bod drwyddo a gobeithio, trwy ddangos beth ddigwyddodd i ni, y gallem helpu ffermwyr a theuluoedd eraill i deimlo’n llai unig.”

Dywedodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Ian Rickman: “Fe allwn ni weiddi a gweiddi, ond os nad yw ein neges yn cael ei chlywed yna gwastraff yw ein hymdrechion. Rydyn ni angen pobl i glywed ein stori.

“Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn wirioneddol ddiolchgar i Enid, Wyn a’r teulu Davies i gyd am ganiatáu camerâu Ffermio ar eu fferm yn ystod y broses erchyll o ddifa chwarter eu buches odro oherwydd TB.

“Eu cryfder wrth ganiatáu i’r cyhoedd eu gweld ar eu mwyaf bregus yw pam ein bod yn falch o gyflwyno gwobr goffa Bob Davies i Enid ac Wyn Davies, Castell Howell, Capel Isaac.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.