Newyddion S4C

Arddangos trysor prin o'r Oes Efydd yn Aberystwyth

01/08/2024

Arddangos trysor prin o'r Oes Efydd yn Aberystwyth

Gwaith metal sydd tua 3,000 o flynyddoedd oed.

Am y tro cyntaf, mae'r darnau man yma o hanes Cymru i'w gweld yn Amgueddfa Ceredigion yn Aberystwyth.

"Nifer o forthwylion, y topiau o'r morthwyl ei hunan.

"Wedyn, arfau a hefyd mwclysi a chlustlysau corff.

"Maen nhw'n brin ofnadwy ac yn rhan o'n treftadaeth ni.

"Bydd e'n ddiddorol darganfod ble gethon nhw eu gwneud, gan bwy ac o bosib, pam gethon nhw eu cuddio hefyd."

Cafodd y trysorau eu darganfod yn Llangeitho yn 2020 gan ddau oedd yn defnyddio offer i ddarganfod metal.

Mae'r pethau gafodd eu datgelu wedi'u galw'n drysor yn swyddogol.

Mae cyfle'n dod i'w prynu a'u cadw'n lleol.

"Dros nos bron, codwyd dros £4,000 ond roedd yr arian yn llifo ymhellach na Cheredigion... o Gymru benbaladr a dros y ffin oherwydd eu pwysigrwydd archeolegol, eu pwysigrwydd yng nghyd-destun hanes yr ardal a hanes Cymru.

"Dw i nawr yn meddwl pan 'dan ni yng nghanol y Gemau Olympaidd a'r son am y gwahanol fedalau... dw i'n credu taw medal aur enillodd Ceredigion pan daeth y celciau o'r Oes Efydd yma i'r golwg."

Wrth i athletwyr barhau i geisio creu hanes ym Mharis mae rhan o orffennol disglair Cymru yma i bawb ei weld yng nghanol tref Aberystwyth.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.