Newyddion S4C

O ddarllen y penawdau i greu penawdau: Tranc gyrfa ddisglair

01/08/2024

O ddarllen y penawdau i greu penawdau: Tranc gyrfa ddisglair

"Noswaith dda, shw'mae."

O gyflwyno Newyddion, Pawb a'i Farn a Dechrau Canu Dechrau Canmol.

"Croeso i Dechrau Canu Dechrau Canmol."

I raglen fore Sul Radio Cymru.

"We're live in Downing Street."

Ac angori digwyddiadau mwya'r wladwriaeth Brydeinig yn Saesneg.

"Welcome to Windsor."

Mae'r Cymro, Huw Edwards, 'di bod yn un o sêr amlyca'r genedl.

Ond heddiw, plediodd y tad i bump, 62 oed yn euog i greu delweddau anweddus o blant.

Gyda saith llun yn Gategori A, y mwyaf difrifol, gall wynebu carchar.

Mae'r rhain yn gyhuddiadau arbennig o ddifrifol.

Categori A ydy'r gwaethaf ac mae'r rheiny yn eu hunain yn gwneud y troseddau yma'n llawer gwaeth.

"Y ffaith bod 'na luniau o'r categori yna'n bodoli.

"Mae 'na luniau o gategoriau eraill hefyd.

"Ond y saith llun mewn Categori A yn gwneud hwn yn ddifrifol iawn."

Ymunodd Huw Edwards a'r BBC ym 1984.

Ddegawd yn ddiweddarach, roedd e'n cyflwyno Newyddion 6 ac erbyn 2003, fe oedd prif gyflwynydd Newyddion 10.

"Tonight at ten..."

A wyneb y BBC ar gyfer y straeon newyddion mawr i gyd.

"As Big Ben reaches ten o'clock."

Yma yng Nghymru'n uchel ei barch.

Yn llywydd anrhydeddus ar nifer o gymdeithasau ac yn Nhregaron ddwy flynedd yn ôl, daeth yn aelod o'r Orsedd.

Ga'th ei wahardd o'i waith y llynedd wedi'i bapur newydd, The Sun honni iddo dalu miloedd am luniau anweddus gan berson ifanc.

Pryd hynny, dweud nad oedd trosedd wedi'i chyflawni wnaeth yr heddlu.

Ond ar ôl dweud bod e'n dioddef o broblemau iechyd meddwl fe ymddiswyddodd o'i waith gyda'r BBC yn gynharach eleni.

Roedd e'n ennill cyflog blynyddol rhwng £475,000 a £480,000 ar y pryd.

Mewn datganiad y prynhawn 'ma mae'r BBC 'di synnu gan y manylion gafodd eu rhyddhau yn y llys heddiw.

Ac yn dweud bod ymddygiad Huw Edwards yn ffiaidd.

Oedden nhw'n ymwybodol iddo fe gael ei arestio ym mis Tachwedd ac yn barod i'w ddiswyddo petai e'n cael ei gyhuddo yn ffurfiol.

Erbyn i hynny ddigwydd, roedd e eisoes wedi ymddiswyddo o'i rôl.

O Langennech i Lundain, daeth Huw Edwards yn arwr i nifer.

Heno, mae'i yrfa a'i enw da 'di chwalu'n deilchion a'i ddyfodol yn ansicr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.