Dysgwr y Flwyddyn: Dechrau dysgu Cymraeg 'ar ôl cael fy ysbrydoli gan fy ngŵr'
Dysgwr y Flwyddyn: Dechrau dysgu Cymraeg 'ar ôl cael fy ysbrydoli gan fy ngŵr'
Mae dysgu Cymraeg wedi rhoi cyfle iddi weld ochr gwahanol i'w gŵr, meddai Alanna Pennar-Macfarlane - un o'r pedwar sydd wedi cyrraedd rhestr fer Dysgwr y Flwyddyn eleni.
Yn wreiddiol o'r Alban ond bellach yn byw yng Nghaerdydd, fe ddechreuodd Alanna ddysgu Cymraeg chwe blynedd yn ôl ar ôl cael ei hysbrydoli gan ei gŵr.
"Mae fy ngŵr a’i deulu i gyd yn siarad Cymraeg iaith gyntaf ac o’n i’n gwybod pa mor bwysig oedd hi iddyn nhw siarad Cymraeg gyda’i gilydd, oedd e’n teimlo yn annaturiol iddyn nhw siarad Saesneg," meddai wrth Newyddion S4C.
"Felly oedd hi’n bwysig i fi nid dim ond deall be o’n i’n dweud ond gallu ymuno a neud e’n fwy naturiol a chyfforddus iddyn nhw.
Ychwanegodd: "Mae ‘di bod yn, nid yn weird, ond yn wahanol i newid iaith ein perthynas ni, rhwng fi a fy ngŵr, achos naethon ni gwrdd yn Saesneg, naethon ni adeiladu perthynas mewn Saesneg ond nawr ni ‘di newid mewn i’r iaith Gymraeg.
"Mae’n rili ddiddorol gweld sut mae fe’n Gymraeg, ma’ fe mor gyfforddus yn y Gymraeg ac yn fwy hapus sy’n rili neis i weld a faswn i ddim wedi gweld yr ochr yna ohono fe heb siarad Cymraeg."
'Llwyddiant mawr'
Mae hi hefyd wedi gweld llwyddiant wrth ddatblygu adnoddau er mwyn helpu eraill ar eu taith iaith.
"Rhoi geiria defnyddiol pob mis sy’n perthyn at y mis ‘na ac o’r syniad yna daeth y dyddiadur i ddysgwyr cyntaf ac oedd hynny yn llwyddiant mawr," meddai.
"Do’n i ddim yn disgwyl i bobl actually prynu fe ond nes i werthu jyst dros 200 ohonyn nhw dros y Nadolig."
Mae Alanna yn teimlo yn ffodus iawn o gyrraedd rhestr fer y gystadleuaeth.
"Do’n i ddim yn teimlo fel yn rhan o’r diwylliant, fi’n gallu gweld y diwylliant yn digwydd," meddai.
"Ond nawr, i fod yn rhan o’r Eisteddfod, ma' jyst yn teimlo mor sbeshial ag arbennig ag i fod yna efo pobl mor arbennig a thalentog a sy’n neud siwt gymaint gyda’r iaith nhw, dwi mor falch o fy hunan, yn bendant."
'Teimlo fel siaradwr'
Mae angen i siaradwyr newydd deimlo yn ddigon hyderus i siarad yr iaith yn ôl Alanna.
"Ni yn gallu cyrraedd y lle ‘na ble mae miliwn ohonom ni ond y problem yw hyder a’r siawns i actually gyrraedd y lle ble ti’n teimlo fel siaradwr," meddai.
"Naeth hi cymryd fi blynyddoedd i teimlo fel dwi’n gallu siarad Cymraeg a jyst i gael y cyfle so i fi, hwn oedd cael gwersi a cael pobl arall sy’n yr un sefyllfa â fi, naeth hynny rhoi’r cyfle i fi."
Mae Alanna yn awyddus i helpu rhagor o ddysgwyr i deimlo yn hyderus pan yn siarad Cymraeg.
"Dwi’n hapus i siarad gydag unrhyw un, fi’n gwybod pa mor anodd ma fe’n gallu bod i gyrraedd y lle fel ti’n teimlo fel ti’n gallu siarad, ma hynny yn cam mawr rhwng dysgu’r iaith ac siarad yr iaith," meddai.
"Dwi jyst eisiau helpu mwy o bobl neud hwn, yn bendant."