Cyhoeddi enw dyn ifanc 17 oed sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio tair merch yn Southport
Mae llys wedi codi gwaharddiad oedd yn rhwystro'r wasg rhag cyhoeddi enw'r dyn ifanc 17 oed sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio tair merch yn Southport.
Fe fydd Axel Muganwa Rudakubana yn cael ei gadw mewn canolfan ddalfa ieuenctid ar ôl ymddangos yn Llys y Goron Lerpwl ddydd Iau, wedi’i gyhuddo o dri chyhuddiad o lofruddiaeth, 10 cyhuddiad o geisio llofruddio, a bod â llafn yn ei feddiant.
Mae Mr Rudakubana, sydd o Gaerdydd yn wreiddiol, wedi ei gyhuddo o'r troseddau honedig yn dilyn ei ymosodiad ar ddosbarth dawnsio yn Southport ddydd Llun.
Cafodd Rudakubana ei gyhuddo o geisio llofruddio dau oedolyn, yr hyfforddwraig yoga Leanne Lucas a’r dyn busnes John Hayes, yn ogystal â cheisio llofruddio’r wyth o blant na ellir eu henwi am resymau cyfreithiol.
Cafodd Alice Dasilva Aguiar, naw oed, Bebe King, chwech oed, ac Elsie Dot Stancombe, saith oed, eu trywanu i farwolaeth yn yr ymosodiad ar Stryd Hart yn Southport, Glannau Mersi.
Dioddefodd wyth o blant eraill anafiadau yn yr ymosodiad - gyda phump ohonynt yn parhau mewn cyflwr difrifol - tra bod dau oedolyn hefyd wedi'u hanafu'n ddifrifol.
Roedd Rudakubana wedi ymddangos yn Llys Ynadon Lerpwl yn gynharach fore dydd Iau.
Daeth y diffynnydd i'r llys tua 09:00 mewn fan carchar gyda nifer fawr o faniau a cheir yr heddlu yn ei hebrwng.
Daeth tua 20 aelod o’r wasg i’r llys ieuenctid, gyda'r Barnwr Rhanbarth James Hatton yn eistedd yn Llys 3.6 yn Llys Ynadon Lerpwl.
Mae anhrefn wedi bod mewn rhai trefi yn Lloegr yn dilyn yr ymosodiad, gyda mwy na 100 o bobl wedi’u harestio mewn protest yn Whitehall nos Fercher, tra bod aflonyddwch hefyd yn Hartlepool, Manceinion ac Aldershot.
Cyhoeddodd Heddlu Glannau Mersi eu bod wedi cyhuddo'r dyn ifanc mewn cynhadledd i'r wasg am hanner nos ddydd Iau.
Llun: PA